Cymunedau Cynaliadwy

Rali Nid yw Cymru ar Werth - Llanrwst

17/12/2022 - 14:00

Cyfarfod ym Maes Parcio Glasdir cyn gorymdeithio o gwmpas y dref

Siaradwyr -
Cyng Nia Clwyd Owen
Robat Idris - Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith
Eryl Owain - Cyn-Swyddog Undeb
Mari Jones (ar ran ienctid y fro)
Beryl Wynne
Tecwyn Ifan

Byddwn ni'n cyhoeddi diweddariadau ar ddigwyddiad facebook y rali yn rheolaidd

Seminar Deddf Eiddo

26/10/2022 - 12:00

Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd

Gyda
Mabon ap Gwynfor - Aelod o'r Senedd
Elin Hywel - Cymdeithas yr Iaith
Walis George

Mae mwy o bobl yn methu fforddio cartref ac yn gadael eu cymunedau am bod cartrefi'n cael eu trin fel asedau.

Rydyn ni wedi paratoi cynigion ar gyfer Deddf Eiddo fyddai'n sicrhau fod gan bawb gartref gwirioneddol fforddiadwy i'w brynu neu rentu yn eu cymuned.

Cynllun Tai a Chymunedau Cymraeg: angen mynd llawer ymhellach yng nghyd-destun problemau tai

Nodwn ein siom bod cymaint o'r mesurau yn y Cynllun Tai a Chymunedau Cymraeg a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth heddiw (11/10/2022) yn dal i ddibynnu ar weithredoedd gwirfoddol ac nad yw'r mesurau na'r cyllid yn mynd yn bell o gwbl.
Deddf Eiddo gyflawn sydd ei hangen.

Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

Trethu Ail Gartrefi: ‘Pryder’ am ddiffyg gweithredu Cyngor Ceredigion

Byddwn ni'n mynegi pryder nad yw Cyngor Ceredigion yn paratoi i godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf (8 Hydref) wrth drafod cynnig sy’n canmol Cyngor Gwynedd am ymgynghori ar godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi i 300%.

Fodd bynnag, mae’r cynnig hefyd yn mynegi pryder nad yw Cyngor Ceredigion wedi defnyddio eu pwerau llawn presennol i godi’r dreth i 100%.

Cyngor Gwynedd yn trafod treth ar ail dai

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod ymgynghoriad ar bremiwm treth cyngor ar ail dai a thai gweigion yfory (dydd Mawrth 27/09).

Bydd gan Awdurdod Lleol y gallu i godi hyd at 300% o dreth cyngor ar ail dai a thai gweigion o fis Ebrill 2023 ond ond er mwyn gwneud hynny bydd yn rhaid iddynt ymgynghori yn gyhoeddus a chael cymeradwyaeth y Cyngor Llawn erbyn mis Ionawr 2023.

Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith:

Camau Nesaf Ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth - beth alla i wneud?

Danfon neges at arweinydd eich Cyngor, a'ch cynghorydd lleol, i fynnu bod gweithredu ar frys i reoli'r farchnad dai a sicrhau cartrefi i'n pobl.

Mewn siroedd gwledig a thwristaidd, dylent o fewn yr wythnosau nesaf fod yn:

1) Cychwyn ymgynghoriad ar lefel y premiwn treth cyngor ar ail gartrefi ar gyfer Ebrill 2023 ymlaen - bydd hawl gan gynhgorau i gynyddu hyd at 300%, ond rhaid ymgynghori nawr neu bydd blwyddyn yn cael ei cholli.

Llywodraeth Cymru'n Llusgo Traed ar Reoliadau Ail Gartrefi a Llety Gwyliau

Mewn rali yn Llangefni ar ddydd Sadwrn 17eg Medi fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyhuddo Llywodraeth Cymru o lusgo traed yn ei addewid i reoli ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau lle mae pobl ifanc yn methu cael lle i fyw yn eu cymuned eu hunain.

Esboniodd Osian Jones, un o drefnwyr y rali:

Camau Nesaf Ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth

Disgwylir cannoedd o bobl yn rali "Nid yw Cymru ar Werth" tu allan i swyddfeydd Cyngor Ynys Môn yn Llangefni am 1pm ddydd Sadwrn.