Cymunedau Cynaliadwy

Ble mae'r brys?

Mae gormod o alw am ymchwil pellach yn hytrach na gweithredu yn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ail gartrefi yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Cynhaliwyd yr ymchwil yn sgil adroddiad y Dr Simon Brooks, 'Ail gartrefi – Datblygu polisïau newydd yng Nghymru'. Ers cyhoeddi adroddiad Dr Simon Brooks mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun o fesurau peilot yn Nwyfor a dau ymgynghoriad.

Rhy hwyr i Benllech - ond nid i ardaloedd eraill

Wedi i bobl Ynys Môn gael eu hatal rhag prynu tai newydd ar yr ynys fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gynnal piced i fynnu Deddf Eiddo fel nad oes rhywbeth fel hyn yn digwydd eto.

Mae ystâd o 16 o dai ym Mrynteg, ger Benllech, yn cael eu hadeiladu, ag amod cynllunio arnynt sy'n golygu bod yn rhaid eu gwerthu fel cartrefi gwyliau, nid fel prif gartref.

Cyfarfod Cyhoeddus ... TAI I BOBOL LEOL

28/03/2022 - 19:00

Cyfarfod Agored yn Y Ganolfan Deuluol, Llanrwst (Tŷ'r Eglwys, Stryd Watling, Llanrwst LL26 0LS).

Siaradwyr : Ffred Ffransis, Meirion Davies ac Aaron Wynne

Codwch lais dros ein cymunedau a mynnu cartrefi fforddiadwy i bawb!

Codwch lais dros ein cymunedau a mynnu cartrefi fforddiadwy i bawb!

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cynnal dau ymgynghoriad pwysig ar faterion tai sy’n cau ddydd Mawrth Chwefror 22, ac mae angen eich cymorth chi i sicrhau bod llais ein cymunedau a phobl gyffredin yn cael eu clywed.

Nid yw Cymru ar Werth - galwadau Cymdeithas yr Iaith ar Lywodraeth Cymru

Mae gan bawb yr hawl i gartref yn eu cymuned. Ond mae llywodraethau San Steffan a’r Senedd dros y degawdau wedi trin tai fel eiddo i wneud elw, yn lle cartrefi, a blaenoriaethu cyfalaf yn lle cymunedau. Mae’r canlyniadau wedi bod yn drychinebus i bobl gyffredin Cymru, ein cymunedau a’r Gymraeg — ac maen nhw’n gwaethygu. 

Iaith a Gwaith - Strategaeth Economaidd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Llunwiyd Iaith a Gwaith - Strategaeth Economaidd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 2016.

Mae ar gael fel PDF

Rali Tynged yr Iaith - Nid yw Cymru ar Werth

19/02/2022 - 14:00
Ar 60 mlwyddiant darlledu araith Saunders Lewis Tynged yr Iaith, rydym yn galw pobl o gymunedau ledled y wlad ynghyd at Rali Tynged yr Iaith yn Aberystwyth fel cam nesaf yr ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth.
 
Byddwn yn dod ynghyd i bwyso ar y Llywodraeth am ymrwymiad at Ddeddf Eiddo gyflawn a fydd yn rhoi i'n cymunedau reolaeth ar eu stoc tai a'u dyfodol. 

Cynnal rali ar chwe deg mlwyddiant darlith ‘Tynged yr Iaith’

Bydd Cymdeithas yr Iaith cynnal rali Nid yw Cymru ar Werth 60 mlynedd ers traddodi darlith ‘Tynged yr Iaith’ gan Saunders Lewis, a sbardunodd sefydlu’r mudiad.

Gweithgor Nid yw Cymru ar Werth

06/03/2024 - 19:00

Eisiau bod yn rhan o'r ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth? Beth am ymuno â'r Gweithgor Nid yw Cymru ar Werth felly?

Bydd y gweithgor yn cyfarfod dros Zoom am 7.00, nos Fercher, 6 Mawrth ac yn trafod trefn a digwyddiadau hyrwyddo rali Nid yw Cymru ar Werth Blaenau Ffestiniog ar 4 Mai 2024.

Cysylltwch os hoffech y ddolen Zoom.

 

Piced Nid yw Cymru ar Werth

04/12/2021 - 11:00

11:00, Sgwâr Lancaster, Conwy

Yn ddiweddar fe bleidleisiodd Cyngor Conwy i godi premiwm treth y cyngor i 50% ar berchnogion ail gartrefi o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Dan arweiniad gweithgor tai fforddiadwy, pleidleisiodd y pwyllgor trosolwg a chraffu i wrthdroi'r penderfyniad hwn, ac i gadw'r gyfradd y bydd perchnogion ail gartrefi yn ei thalu yn 25% ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.