Hanner Cant

Rali Ryngwladol: Dathlu 50 mlynedd o Ymgyrchu

08/09/2012 - 14:30

Sesiwn Ryngwladol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

14:30, Dydd Sadwrn, 8fed o Fedi 2012

Canolfan y Morlan, Aberystwyth

Cynhelir rali flynyddol arbennig i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bydd cyfle gan siaradwyr i son am eu profiadau ymgyrchu mewn gwahanol lefydd yn y byd.

Siaradwyr:

yr Awdur a Darlledwr Mike Parker,

Llywydd Plaid Cymru Jill Evans ASE,

Paul Bilbao Sarria, cynrychiolydd y mudiad iaith Fasgeg Kontseilua,

Sian Howys ac eraill.

Cynhadledd: Ymgyrchu tros Ieithoedd Tan Ormes - Y Sesiwn Ryngwladol

07/09/2012 - 10:00

10yb, Dydd Gwener, 7fed o Fedi 2012

Canolfan y Morlan, Aberystwyth

Gigs Steddfod: "lein-yp cyffrous a'r llety rhataf"

Mae tocynnau gigs Eisteddfod y Gymdeithas wedi mynd ar werth heddiw, gyda threfnwyr yn dweud eu bod wedi cyfuno'r lle rhataf i aros yn ystod y brifwyl gyda'r lein-yp gorau.

Mewn partneriaeth gyda Chlwb Rygbi Llanilltud Fawr, mae'r mudiad wedi sicrhau bod Eisteddfodwyr yn gallu aros mewn pabell am £6 y noson gyda 10% oddi ar bris diodydd i'r rhai sy'n gwersylla.