Dogfennau a Erthyglau

Annwyl Weinidog,

Ysgrifennwn atoch â chryn bryder ynghylch Safonau'r Gymraeg ym maes iechyd a gyhoeddwyd gennych chi ar 14eg Gorffennaf. Fe gofiwch eich bod wedi ymrwymo cyn yr etholiad i ddatgan eich bod eisiau:

"defnyddio’r Gymraeg ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol o’r crud i’r bedd"

7/7/2016

Annwyl Paul McCarthy (Prif Weithredwr, Rightacres) a Laura Mason (Cyfarwyddwr Buddsoddiad, Legal & General Capital)

Ysgrifennwn er mwyn datgan ein gwrthwynebiad llwyr i’r driniaeth o’r Gymraeg yn y datblygiad newydd yn yr ardal o gwmpas gorsaf drên Caerdydd canolog gan gynnwys adeilad a enwyd yn uniaith Saesneg fel ‘One Central Square’ gennych.

Fersiynau Cymraeg, Cernyweg, Gwyddeleg a Saesneg isod.
 

Llythyr agored gan gymunedau ieithoedd lleiafrifoledig sydd o dan awdurdodaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Mae ein cymunedau ieithyddol ar eu hennill oherwydd aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd

Annwyl Gomisiynydd y Gymraeg,

Ysgrifennaf gwyn swyddogol ar ran nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith ac ar ran pobl Cymru yn gyffredinol ynghylch diffyg cydymffurfiaeth cynghorau â'r Safonau ynghylch cynnig cyrsiau addysg. 

Atodaf ymchwil rydym wedi ei wneud o bob cyngor sir a nifer o ganolfannau hamdden sy'n dangos bod nifer fawr o awdurdodau lleol yn torri Safon 84.

Ateb. Week In Week Out (cyf. CAS-3846669-0703VY)
3/6/16

Annwyl Mr Bevan,

Diolch i chi am gysylltu â ni gyda’ch rhestr o gwynion ynglŷn â Week In Week Out. Mae'r ymateb yma’n ymdrin â'r materion nodwyd yn eich gohebiaeth 25ain o Fai.  Bydd y cwynion eraill a godwyd gennych mewn negeseuon pellach at BBC Cymru yn cael sylw ar wahân.