Archif Newyddion

17/09/2013 - 13:33
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gadael i gynghorau sir godi treth uwch ar ail dai. Mae’r syniad, y bydd y Llywodraeth yn ymgynghori arno fe, yn un o’r argymhellion polisi ym Maniffesto Byw y mudiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.
14/09/2013 - 12:40
Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryder am ddiffyg uchelgais rheolwyr BBC Cymru dros eu gwasanaethau Cymraeg heddiw, gan ddweud bod angen sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol newydd.
09/09/2013 - 11:05
Ni ddylai ad-drefnu llywodraeth leol beryglu polisi iaith Gwynedd, dyna yw prif neges Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wrth iddyn nhw ymateb i gomisiwn a sefydlwyd i ystyried dyfodol cynghorau sir.
04/09/2013 - 12:25
Annwyl Mr Jones, 
21/08/2013 - 11:17
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i benderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i ymchwilio i bolisi iaith Cyngor Torfaen ar ôl i’r Cyngor lansio llinell ffôn uniaith Saesneg ddiwedd mis Mehefin. Fis diwethaf galwodd Cymdeithas yr Iaith ar Gomisiynydd y Gymraeg i ddefnyddio’i phwerau statudol i gynnal ymchwiliad i fethiannau’r Cyngor.
10/08/2013 - 21:29
Mae Cymdeithas yr Iaith yn ystyried gweithredu’n uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Cymru os nad oes newidiadau polisi sylweddol mewn ymateb i 
09/08/2013 - 07:55
Cynhaliwyd gêm bêl-droed ar faes yr Eisteddfod heddiw (12:30pm, Dydd Iau) fel rhan o ymgyrch dros yr hawl i chwarae yn Gymraeg.
07/08/2013 - 14:58
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi heddiw restr o bobl amlwg sydd wedi llofnodi llythyr agored at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cefnogi galwad am chwyldroi addysg Gymraeg. Mae’r rhestr yn cynwys yr Archdderwydd, Aelodau Cynulliad a Seneddol  a chynghorwyr lleol, yn ogystal ag addysgwyr a rhai sy’n gweithio gyda phobl ifainc ym maes chwaraeon.
07/08/2013 - 06:45
MAE gan Carwyn Jones chwe mis i brofi nad ‘siop siarad’ oedd y Gynhadledd Fawr, yn ôl ymgyrchwyr iaith sydd wedi gosod wltimatwm i Lywodraeth Cymru heddiw. Mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan bod angen gweld symud ar chwe phwynt polisi er mwyn profi bod y Gynhadledd Fawr wedi bod yn werth chweil. Mae’r llythyr yn gofyn i Carwyn Jones weithredu ar y chwe phwynt polisi canlynol: