Archif Newyddion

06/08/2013 - 15:11
Mae’r Prif Weinidog yn wynebu ei ‘brawf cyntaf’ yn sgil ei gyfrifoldeb newydd dros y Gymraeg wrth iddo benderfynu ar y safonau iaith newydd, yn ôl ymgyrchwyr a fydd yn lansio addewid dros hawliau ar faes yr Eisteddfod heddiw.
03/08/2013 - 13:04
Daeth busnes Marks and Spencer Caerfyrddin i stop am hanner awr prynhawn yma (dydd Sadwrn 3ydd o Awst) wedi i aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrthod talu am eu siopa.  
02/08/2013 - 08:06
Mae galwadau dros hawliau i gael gofal iechyd yn Gymraeg wedi cynyddu wedi i Aelod Cynulliad, a gollodd ei allu i siarad Saesneg yn ystod salwch difrifol y llynedd, ddatgelu nad oedd staff yn gallu cyfathrebu gyda fe yn Gymraeg mewn ysbyty yng Nghaerdydd.
01/08/2013 - 15:00
Cyngor “ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud” - medd Cymdeithas yr Iaith Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Caerdydd i ail-ystyried ei gynllun ad-drefnu addysg yn y ddinas wedi i'r Prif Weinidog gadarnhau eu bod yn gweithredu'n groes i'w gynllun addysg Gymraeg eu hunain. Byddai Cyngor Caerdydd yn gweithredu yn groes i’w gynllun addysg ei hunan petai ei weinyddiaeth Lafur yn penderfynu peidio ag adeiladu ysgol Gymraeg yn ardal Grangetown, medd Prif Weinidog Cymru.
25/07/2013 - 09:14
Mae Meri Huws wedi cytuno bod angen adolygu system gwynion Comisiynydd y Gymraeg, mewn cyfarfod gyda swyddogion Cymdeithas yr Iaith ar faes y Sioe Fawr heddiw (2pm, Dydd Mercher, Gorff. 24). Gofynnwyd am gyfarfod gyda’r Comisiynydd yn dilyn rhwystredigaeth sawl un o aelodau’r Gymdeithas gyda’r system bresennol.
22/07/2013 - 16:13
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio penderfyniad cabinet Cyngor  Caerdydd i fwrw ymlaen â chynllun i beidio â sefydlu ysgol Gymraeg i Grangetown,  Caerdydd fel un ‘cywilyddus’.  Daeth tua 50 o ymgyrchwyr lleol i biced tu allan i gyfarfod cabinet y cyngor 
21/07/2013 - 20:05
Mae Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r helynt am ysgol Gymraeg yn Nhrelluest (Grangetown).
20/07/2013 - 21:15
Amgylchynwyd siop M&S Caerfyrdin gan linyn yn dal 200 pâr o bants yn dilyn protest gan agos at 100 o aelodau Cymdeithas yr Iaith heddiw. Wrth annerch cannoedd o siopwyr yng nghanol y dref, dywedodd Hazel Charles Evans fod y siop wedi cefnu ar ei haddewid i wneud eu cangen yng Nghaerfyrddin yn esiampl o ddefnydd llawn o’r Gymraeg.
16/07/2013 - 13:13
Pobl amlwg ym meysydd yr amgylchedd, busnes a chyfiawnder cymdeithasol yn cefnogi Bil Datblygu Cynaliadwy amgen Mwy nag 20 o sefydliadau wedi ymrestru (rhestr lawn isod) Bil i Gymru gyfan lle bydd pawb ar ei ennill – mae’r ymgyrchwyr yn dweud y byddai buddion bil cryf yn cynnwys swyddi gwyrdd, diet iachach a chefnogaeth i gymunedau Cymraeg