Archif Newyddion

05/10/2006 - 15:43
Mae Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith yn falch iawn i allu cyhoeddi mae'r Ffyrc fydd y prif fand i berfformio ar y Daith Tafod cyntaf. Mae'n argoeli'n dipyn o sioe hefyd gan y bydd Kentucky AFC ac enillwyr Brwydr y Bandiau 2006, Amlder, yn cefnogi.
28/09/2006 - 17:26
Mae Radio 1 wedi datgan mai 12 Hydref yw dyddiad Diwrnod John Peel eleni. Ledled y byd, bydd gigs a digwyddiadau cerddorol yn cymryd lle, i gofio am y dyn a wnaeth gymaint dros gerddoriaeth amgen. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â nhw gan gynnal noson arbennig yn y Greeks ym Mangor Uchaf.
20/09/2006 - 11:17
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cadw ei haddewid na fyddai Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael cau Ysgol Mynyddcerrig heb wrthwynebiad. Mae disgwyl i'r Bwrdd Gweithredol gwrdd mewn sesiwn gyhoeddus am 10am i gadarnhau argymhellion y swyddogion addysg i gau Ysgol Mynyddcerrig.
18/09/2006 - 11:51
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin i gymryd cam hanesyddol trwy ddefnyddio'u hawl cyfansoddiadol i alw i mewn penderfyniad gan y Bwrdd Gweithredol.
07/09/2006 - 14:55
Wedi'r ymgynghori gyda'r datblygwyr 'Eatonfield Group'a Chyngor Sir Gâr, datgelodd Cymdeithas yr Iaith y gallai fod dechrau ar y broses o adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli yn nyffryn teifi mor glou â'r Pasg nesaf.
30/08/2006 - 13:20
Cafodd Iestyn ap Rhobert (27 oed o Langadog) ddirwy o £200 gan Llys Ynadon Caerfyrddin heddiw, ond ni orfodwyd iddo dalu iawndal i gwmni preifat a oedd yn cynrychioli Debenhams.
25/08/2006 - 15:18
Bydd y daith 'Deddf Iaith ar daith' yn dod i ben dydd Sadwrn Awst 26ain pan fydd aelodau'r Gymdeithas yn casglu enwau ar y ddeiseb Deddf Iaith y tu allan i Woolworths Aberteifi rhwng 11 y bore a 3 y prynhawn.
11/08/2006 - 18:18
Bydd 'Y Stig' yn gwneud ymddangosiad ar Faes yr Eisteddfod heddiw Ar ei feic modur yn barod i ruthro at Neuadd y Sir Caerfyrddin gyda llond blwch o negeseuon yn cefnogi ysgol bentre sydd wedi’i lleoli tua 12 milltir o’r maes. 'Y Stig' yw’r gyrrwr rasio di-enw sy’n profi ceir ar y rhaglen deledu 'Top Gear'.
09/08/2006 - 19:33
Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir am 2 o’r gloch heddiw ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno drafft o Ddeddf Iaith Newydd. Gwneir hyn fel cyfraniad pellach i’r drafodaeth gynyddol ynglyn â’r angen am ddeddfwriaeth iaith gryfach.
03/08/2006 - 21:13
Dros yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd rhagbrofion ledled Cymru, ac erbyn hyn gellir cyhoeddi’r 4 band fydd yn brwydro am deitl grwp ifanc gorau Cymru. Y bandiau sydd wedi cyrraedd y ffeinal yw Gloria a’r Creiond Piws (enillwyr rhagbrawf Llyn), Zootechnics (enillwyr rhagbrawf Caernarfon), Amlder (enillwyr rhagbrawf Caerfyrddin), ac yn olaf Eusebio (enillwyr rhagbrawf Crymych).