Am 2 o'r gloch Dydd Sadwrn Ionawr 27ain ger y cloc ym Mangor fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal y ddiweddaraf mewn cyfres o brotestiadau dros Ddeddf Iaith Newydd.Y siaradwyr yn y Rali fydd Steffan Cravos (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Bethan Williams (Cadeirydd Cell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor) a Hywel Williams AS (Aelod Seneddol Arfon a llefarydd Plaid Cymr
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mewn llythyr at Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi addo y byddant yn cadw at reolau'r Maes y flwyddyn nesaf ac yn arbennig at reol rhif 33 sy'n datgan:
Bydd dyfodol yr ysgol gynradd Gymraeg ei chyfrwng ym Mynyddcerrig yn dod gerbron Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin am y tro olaf bore fory (10am Mawrth 9ed Ionawr).
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymosod ar sylwadau Tony Blair ar aml-ddiwylliannedd ym Mhrydain, a'i alwad ar i leiafrifoedd yn y wlad intigreiddio.
Am 12:30 heddiw cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddrafft mesur iaith Gymraeg ger bron y pleidiau yn y Cynulliad. Cafodd y digwyddiad ei noddi gan y Blaid Geidwadol, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol a chafwyd araith gan bob un o'r pleidiau.
Ar ddydd Mercher y 29ain o Dachwedd fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno drafft mesur ar yr iaith Gymraeg ger bron y pleidiau gwleidyddol ym mae Caerdydd.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Ceredigion i gyhoeddi pob adroddiad a dogfen ar eu gwefan yn Saesneg gyda nodyn y cant eu cyfieithu i'r Gymraeg fel y bydd adnoddau'n caniatau.
Mae Cymdeithas yr Iaith a rhieni ysgol Mynyddcerrig yn mynnu esboniad gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James am y sylwadau a wnaeth ar ddiwedd cyfarfod o'r Bwrdd Gweithredol ar yr 20ed o Fedi.
Am 12.30pm heddiw (Dydd Sadwrn 14/10), gorymdeithiodd tua 100 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg draw at ‘Ystwyth Retail Park’, yn Aberystwyth, i gynnal Rali Brotest.
Mae cwmni Morrisons wedi cytuno i ystyried y posibilrwydd o weithredu cynllun saith pwynt er mwyn gwneud defnydd llawn o'r Gymraeg yn eu siopau ar ôl cyfarfod â dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Bradford heddiw.