Archif Newyddion

04/01/2018 - 15:44
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r newyddion heddiw y bydd argymhelliad gerbron cyfarfod llawn Cyngor Sir Caerfyrddin yr wythnos nesaf i gychwyn yn syth y gwaith o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer y ddegawd nesaf.
02/01/2018 - 21:09
Mae dros ddwsin o ymgyrchwyr wedi dechrau ymatal rhag bwyta heddiw (dydd Mawrth, 2il Ionawr) er mwyn pwyso am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru. 
21/12/2017 - 16:41
Mae mudiad iaith wedi cyhuddo'r BBC o symud ymlaen gyda'i ymdrechion i draflyncu S4C yn dilyn dogfennau a ddatgelwyd drwy gais rhyddid gwybodaeth. Mae'r dogfennau yn dangos y bydd y BBC yn rheoli technoleg S4C yn ei swyddfeydd yng Nghaerfyrddin a Chaernarfon yn ogystal â throsglwyddo signal y sianel o'i swyddfa yng Nghaerdydd.
13/12/2017 - 12:32
Wrth ymateb i’r newyddion fod Cyngor Môn wedi cadarnhau ei fwriad i symud i weinyddu’n Gymraeg mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion wedi galw ar y cynghorau yno i ddilyn yr esiampl. Dywedodd David Williams, ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
12/12/2017 - 16:24
Mae mudiad iaith wedi llongyfarch cynghorwyr Ynys Môn ar bleidleisio o blaid symud yr awdurdod lleol at weinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg yn unig. Meddai Menna Machreth o ranbarth leol Cymdeithas yr Iaith:
12/12/2017 - 15:40
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r penderfyniad i ehangu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i addysg bellach, ond mae'r mudiad yn holi a yw'r ewyllys gwleidyddol gan y llywodraeth i ddyrannu'r adnoddau i sicrhau llwyddiant y datblygiad hwn.   Meddai Ffred Ffransis, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:  
10/12/2017 - 13:58
Mae mudiad iaith wedi galw ar i gynghorwyr wrthwynebu cynnig i wrthdroi polisi Cyngor Sir Yn
28/11/2017 - 15:44
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw y bydd ymgynghori ar greu strategaeth newydd i gynnal cymunedau gwledig, ond wedi galw ar bobl y sir i gyfrannu "syniadau o'r newydd". Mewn ymateb i gyhoeddiad y Cyng. Cefin Campbell ar faes y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, dywedodd David Williams, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin: