Archif Newyddion

02/06/2017 - 17:16
Lansiad swyddogol gwefan meddwl.org ar faes Eisteddfod yr Urdd   Mae diffyg darpariaeth ddigonol o wasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg, dyna oedd neges ymgyrchwyr mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.
30/05/2017 - 16:31
Mae ymgyrchwyr a hyrwyddwyr yr iaith Māori o’r grwp Te Panekiretanga o te Reo (Ysgol am Ragoriaeth Iaith) o Aotearoa, Seland Newydd wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd heddiw (dydd Mawrth, 30ain Mai) fel rhan o’u taith i ymweld â chymunedau iaith bychain ar draws Ewrop.
29/05/2017 - 12:37
Bydd rhaid i'r mwyafrif o blant gael eu haddysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef bod miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn canol y ganrif, yn ôl gwaith ymchwil mudiad iaith. 
18/05/2017 - 09:53
Mae hanner cant o bobl bellach yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu, fel rhan o ymgyrch i ddatganoli grym dros ddarlledu i Gymru, yn ôl cyhoeddiad gan grŵp ymgyrchu heddiw (dydd Iau, 16eg Mai).  
18/05/2017 - 00:01
Mae mudiad iaith wedi dweud bod adroddiad pwyllgor y Cynulliad yn 'gyfraniad pwysig i
01/05/2017 - 18:01
Yn dilyn cyfarfod agored i drafod darpariaeth iechyd yn Gymraeg yng Nghaerfyrddin mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu camau i Gymreigio Bwrdd Iechyd Hywel Dda gan bwysleisio bod angen newid meddylfryd yn yr hirdymor.
27/04/2017 - 16:15
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Tribiwnlys y Gymraeg i wrthod apêl gan Gyngor Sir Benfro ynglŷn â Safonau iaith.   Roedd yr awdurdod lleol wedi ceisio apelio yn erbyn penderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i roi dyletswydd arno i ddarparu cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd gydag unigolion i drafod eu llesiant, fel bod modd i'r cyfarfod ddigwydd yn Gymraeg.   Wrth ymateb i'r penderfyniad dywedodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:
13/04/2017 - 12:03
  Bydd Bryn Fôn, Kizzy Crawford, Geraint Jarman a Tudur Owen ymysg y prif berfformwyr yn ystod wythnos o gigs amgen sy’n cael eu trefnu gan garedigion yr iaith ar Fferm Penrhos, Bodedern yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn. [Cliciwch yma i brynu tocynnau]