Archif Newyddion

11/04/2017 - 19:30
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cwyno'n ffurfiol i Ofcom am y diffyg Cymraeg a ddarlledir ar y sianel deledu newydd 'Made in North Wales TV'.   
05/04/2017 - 10:43
Union dair blynedd ers ennill y frwydr i gadw Neuadd Pantycelyn ar agor, mae gan fyfyrwyr bryder am ddatblygiadau diweddar i’r neuadd. Symudwyd swyddfeydd Adran Ystadau’r brifysgol i Ffreutur Pantycelyn fis Mawrth, am gyfnod o chwe mis. Mae cais rhyddid gwybodaeth a wnaed gan Ffrindiau Pantycelyn yn dangos i’r brifysgol wario £4,382.11 ar newidiadau i Bantycelyn wrth addasu’r ffreutur yn swyddfeydd. Mae hyn yn cynnwys gosod cloeon, socedi trydan, arwyddion, ail-wneud y gegin, ac ailbeintio’r ffreutur a’r maes parcio.
31/03/2017 - 11:40
Mae mudiad iaith wedi mynegi pryder y gall
24/03/2017 - 10:18
Mae mudiad iaith wedi picedu archfarchnadoedd yng Nghaerdydd a Bangor heddiw oherwydd diffyg gwasanaethau Cymraeg gan ddweud bod rhaid deddfu i sicrhau gwelliant.  
22/03/2017 - 13:24
Ar y diwrnod y mae agor enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol y mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi mynd i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin i lansio ymgyrch i bwyso ar yr ymgeiswyr "i ddal ar y cyfle olaf" i adfer y Gymraeg yn brif iaith Sir Gâr. Dywedodd David Williams, isgadeirydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin, wrth gefnogwyr a oedd yn dal baneri ar risiau Neuadd y Sir -
20/03/2017 - 18:58
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r newyddion y bydd toriadau ychwanegol o £700,000 i S4C.     
16/03/2017 - 12:46
Cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, mae ymgyrchwyr iaith wedi herio'r pleidiau i ymrwymo i gymryd camau'n lleol i gyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.