Archif Newyddion

20/02/2018 - 15:12
Wrth i fyfyriwr yn Aberystwyth ddechrau ymatal rhag bwyta heddiw (dydd Mawrth, 20fed Chwefror) am gyfnod o saith diwrnod, mae mudiad iaith wedi galw ar i Aelodau Cynulliad gefnogi datganoli pwerau darlledu i Gymru.  
16/02/2018 - 11:25
Mae sawl ffordd y gallwch chi ddangos eich cefnogaeth i safiad Elfed Wyn Jones, sy'n mynd heb fwyd am wythnos, fel rhan o'r ymgyrch dros ddatganoli darlledu. Mi fydd yn dechrau ei ympryd ar ddydd Mawrth wythnos nesa (20fed Chwefror) ac mi fydd yn para tan y dydd Mawrth dilynol.     12:30yp, dydd Mawrth, 27ain Chwefror - dewch i'r Senedd yng Nghaerdydd er mwyn diolch i Elfed ar ddiwedd ei ympryd: http://cymdeithas.cymru/digwyddiadau/diwedd-ympryd-elfed-dewch-i-ddweud-...
15/02/2018 - 12:50
Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei fod yn mynd i fynd heb fwyd am saith niwrnod er mwyn pwyso am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.    Mae Elfed Wyn Jones yn 20 mlwydd oed a chafodd ei fagu ar y fferm deuluol yn Nhrawsfynydd yng Ngwynedd. Mi fydd yn dechrau ei ympryd ar ddydd Mawrth wythnos nesa (20fed Chwefror) ac mi fydd yn para tan y dydd Mawrth dilynol.   
29/01/2018 - 10:51
Mae mudiad iaith wedi croesawu lansiad Radio Cymru 2 gan ddweud ei fod yn 'gam yn y cyfeiriad iawn' a bod angen datganoli pwerau darlledu i Gymru er mwyn normaleiddio'r Gymraeg ar draws y cyfryngau.    Meddai Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:   
25/01/2018 - 17:43
'Barn yn rhanedig' medd y Llywodraeth wedi iddynt anwybyddu dros hanner y gwrthwynebwyr 
18/01/2018 - 14:12
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am Fil y Gymraeg. Dywedodd Osian Rhys, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
17/01/2018 - 14:12
Mewn cyfarfod â Gweinidog y Gymraeg heddiw (dydd Mercher, 17eg Ionawr) bydd mudiad iaith yn argymell sefydlu corff newydd i hyrwyddo’r Gymraeg heb fod angen deddfu, mewn ymdrech i atal y Llywodraeth rhag gwanhau hawliau i’r iaith.
15/01/2018 - 15:19
Mae'r actor Rhys Ifans a'r academydd Yr Athro Richard Wyn Jones ymysg dros bedwar deg o Gymry adnabyddus sydd wedi llofnodi llythyr agored at Brif Weinidog Prydain yn galw arni ddatganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru. 
08/01/2018 - 20:15
Siân Gwenllian ar y brig – 'esiampl i eraill', medd y Gymdeithas