Clwyd

Teyrnged i'r Tywysog William a'i deulu yn y Steddfod Frenhinol

hywelffiaidd1.jpgMae Cymdeithas yr Iaith yn falch o gyhoeddi y bydd yn trefnu Noson o Deyrnged - ar ffurf Comedi a Cherddoriaeth - i'r Teulu Brenhinol ac i bawb sy'n ein llywodraethu o Lundain yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol.

Angen 'chwyldro tai' er mwyn achub cymunedau - protest Bodelwyddan

protest-bodelwyddan.jpgBu ymgyrchwyr yn galw am 'newidiadau radical' yn y gyfundrefn cynllunio mewn protest yn erbyn datblygiad tai enfawr yng ngogledd Cymru heddiw (Dydd Sadwrn, Gorffennaf 2).Mae ymgyrchwyr yn gwrthwynebu cynllun i godi dwy fil o adeiladau newydd ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych, cynllun a fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55.Cafodd y brotest, tu allan i neuadd y s

Noson Heddwch yn ystod adloniant yr Eisteddfod

meic.jpgMae mudiadau heddwch yn annog pobl i ymuno a nhw mewn gig i gofio Hiroshima a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.Ar nos Wener 5 Awst, fe fydd munud o dawelwch am hanner nos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam i gofio' rheiny a fu farw 66 mlynedd yn ôl.

Dathlu 50 mlynedd o Brotest a Roc Cymraeg

disgo-mici-plwm.jpgMae Mici Plwm wedi cyhoeddi y bydd ei DISCO TEITHIOL enwog yn ôl ar y ffordd - ar y cledrau a dweud y gwir ! - mewn Noson fawr yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam yn yr Eisteddfod eleni.

Gigs Eisteddfod Wrecsam Cymdeithas

2gigs-steddfod-wrecsam-2011.jpgLansiodd un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru, Bryn Fôn, gigs Cymdeithas yr Iaith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam heddiw (Dydd Gwener Mai 13) gan eu disgrifio fel y 'lein-yp mwyaf cyffrous ers blynyddoedd'.Mae'r gigs - a gynhelir ym mhrif glwb nos y gogledd, yr Orsaf Ganolog - yn dechrau ar Nos Sul gyda'r ffilm 'Separado!' a pherff

Gigs Cymdeithas Eisteddfod Wrecsam: rhan o weithredu cymunedol

logo-gigs-wrecsam-2011.jpgYn ystod y flwyddyn pryd y cyhoeddwyd araith "Tynged yr Iaith 2 - Dyfodol ein Cymunedau", mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd y gigs a gynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn rhan o ymgyrchoedd gweithredu cymunedol.

S4C: Aelodau Cymdeithas yn targedu swyddfa Gweinidog

davidjones.jpgMae aelodau lleol o fudiad iaith wedi mynd ati i godi posteri ar swyddfa David Jones yn etholaeth Gorllewin Clwyd heno (Nos Sul 27/02/11) fel rhan o ymgyrch dros gadw annibyniaeth S4C.Mae'r posteri sydd yn datgan "David Jones Gwrandewch ar lais y pobl Cymru", yn rhan o ymgyrch genedlaethol gan y gr?p ymgyrch sydd yn honni fod y Llywodraeth a'r BBC yn cydweithio ar gynll

Beirniadu Cynllun Tai Bodelwyddan

Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu cynllun i godi 2,000 o adeiladau newydd gan gynnwys cartrefi a siopau ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun i drafod asesiad gan y Cyngor Sir i effaith tebygol y datblygiad ar gymuned y pentref a'r iaith Gymraeg.Roedd tua 80 o bobol wedi mynd i'r cyfarfod er mwyn gwrthwynebu'r cynllun fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55. Bydd ymgynghoriad chwe wythnos i'r datblygiad yn dechrau ar 26 Ionawr.

Llongyfarch Cyngor am amddifyn Ysgolion Gwledig Cymraeg

conwy-cadwn-ysgolion.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch swyddogion Cyngor Conwy am eu parodrwydd i gymryd sylw o lais y bobl ac am eu penderfyniad i gryfhau ysgolion gwledig Cymraeg yn y sir.

Bygythiad i gymunedau gogledd Cymru - Cynhadledd Undydd

cynhadledd-wrecsam-bach.jpgBydd gwleidyddion, arbenigwyr ac ymgyrchwyr yn trafod sut i amddiffyn cymunedau yng ngogledd Cymru mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Glyndwr yfory (10am, Dydd Sadwrn, 25 Medi) yn sgil bygythiadau megis y cynllun is-ranbarthol Caer-Gogledd Dwyrain Cymru a chau ysgolion mewn ardaloedd gwledig.