Rhyngwladol

Cyhuddo Prydain o dorri cyfraith Ewrop dros S4C

s4c-toriadau.jpg

Mae ymgyrchwyr iaith yn ystyried her gyfreithiol dros S4C yn dilyn cadarnhad gan swyddogion uchaf Ewrop heddiw y byddai dirwyiad mewn lefel gwasanaethau teledu Gymraeg yn groes i gyfraith ryngwladol.

Ymgyrch S4C yn cyrraedd Ewrop

strasbwrg.jpg

Bydd dirprwyaeth o ymgyrchwyr iaith yn trafod y bygythiadau i S4C mewn cyfarfod â swyddogion uchaf Ewrop heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 7).

Gig er mwyn Gasa

Ar nos Wener, Mawrth 13, bydd noson arbennig iawn yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon i godi arian i bobl Gasa. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu drwy ddod i gefnogi noson lle bydd Steve Eaves a Gwilym Morus yn chwarae. Steve Eaves ei hun sydd wedi cynnig cynnal noson, ac rydym yn ffyddiog y bydd yn gyfle i nifer fawr iawn o gyfrannu i achos sydd wedi eu cyffwrdd yn ddwfn.

Dirprwyiaeth o aelodau yn ymweld â Gwlad y Basg

Gwlad y BasgAr ôl i Gyfarfod Cyffredinol a Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddod i ben yn Aberystwyth brynhawn dydd Sadwrn Hydref 25 bydd pymtheg o aelodau'r Gymdeithas yn paratoi i adael ymhen deuddydd i ymweld â Gwlad y Basg. Dyma'r tro cyntaf ers pymtheg mlynedd i ddirprwyaeth o aelodau'r Gymdeithas ymweld â'r wlad.

Cefnogi Gorymdaith dros Ddeddf Iaith Wyddeleg

PobalAr Ddydd Sadwrn 24 Chwefror bydd Gwyn Sion Ifan, Sel Jones a Huw Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn teithio i Belfast i fynychu gwrthdystiad dros Ddeddf Iaith Gwyddeleg i ogledd Iwerddon, ac i ddatgan cefnogaeth i’r 160,000 o siaradwyr yr Wyddeleg yn y gogledd. Yn ogystal â’r orymdaith ei hun, bydd cyngherddau a digwyddiadau ieithyddol eraill yn cyd-fynd â hi.

Llythyru Aelodau Ewropeaidd

Bernat JoanMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dangos eu cefnogaeth i alwadau Joan Bernat ASE trwy lythyru holl aelodau Cymru o’r Senedd Ewropeaidd yn gofyn iddynt hwythau gefnogi a phleidleisio dros argymhellion Joan Bernat.