Archif Newyddion

05/04/2007 - 19:43
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi hysbysu pobl Pont-Tyweli fod y cais am 50 o dai ym Mhont-Tyweli, gan Eatonfield group, wedi ei ail-gyflwyno i'r Cyngor. Cyflwynwyd y cais gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2006 ond fe dynnwyd y cais yn ol ym mis Ionawr 2007.
30/03/2007 - 14:53
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cysylltu gydag athrawon a Ysgol Gynradd bentrefol Mynyddcerrig heddiw i ddatgan y bydd yr ysgol yn cau am y tro olaf ar ddiwedd tymor yr Haf eleni.
22/03/2007 - 18:44
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon enwau 59 o gwmniau preifat ddylai fabwysiadu polisi dwyieithog cyflawn at Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae hyn yn dilyn penodi Ifan Evans fel swyddog cyflogedig ar y Bwrdd Iaith gyda chyfrifoldeb arbennig dros y sector breifat.
22/03/2007 - 17:14
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymosod ar gyhoeddiad Alun Pugh ei fod yn ymgynghori â 59 o gyrff ynglyn a mabwysiadu polisi iaith.
11/03/2007 - 15:02
Yn eu Cyfarfod Cyffredinol yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth ddoe (dydd Sadwrn Mawrth 10) cafodd Hywel Griffiths ei ethol fel Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i arwain y mudiad am y flwyddyn 2007 – 2008. Mae Hywel, sy'n 23 mlwydd oed, yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
07/03/2007 - 14:30
Yn eu Cyfarfod Cyffredinol gynhelir yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth dydd Sadwrn Mawrth 10 fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ethol Cadeirydd newydd i arwain y mudiad am y flwyddyn 2007 – 2008. Hywel Griffiths yw'r unig ymgeisydd am y gadeiryddiaeth eleni ac mae'n debyg o gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad.
05/03/2007 - 21:03
Yn y Cyfarfod Cyffredinol gynhelir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Ddydd Sadwrn Mawrth 10ed yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth, un o'r cynigion pwysicaf a drofodir yno fydd yr un ar sut y dylai'r Gymdeithas wario yr arian mawr adawyd iddi mewn ewyllys gan y diweddar Howell Lewis. Erbyn hyn mae'r Gymdeithas wedi derbyn dros £400,000 o'r arian hwnnw.
01/03/2007 - 18:34
Mae Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith yn falch iawn o gyhoeddi mai Cowbois Rhos Botwnnog fydd y prif fand ar ail Daith Tafod sydd i’w chynnal ym mis Ebrill. Bydd Yucatan a Mr Huw hefyd yn ymuno â nhw wrth iddynt ymweld â phob cwr o Gymru.
23/02/2007 - 12:22
Ar Ddydd Sadwrn 24 Chwefror bydd Gwyn Sion Ifan, Sel Jones a Huw Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn teithio i Belfast i fynychu gwrthdystiad dros Ddeddf Iaith Gwyddeleg i ogledd Iwerddon, ac i ddatgan cefnogaeth i’r 160,000 o siaradwyr yr Wyddeleg yn y gogledd. Yn ogystal â’r orymdaith ei hun, bydd cyngherddau a digwyddiadau ieithyddol eraill yn cyd-fynd â hi.
16/02/2007 - 18:50
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r farn fod y Blaid Lafur yn graddol newid ei thiwn ar gwestiwn Deddf Iaith.