Archif Newyddion

09/01/2008 - 17:51
Fe ddywedodd un o weithwyr cangen Caerfyrddin o Focus ddoe 08/01/08, mai iaith estron yw'r Iaith Gymraeg, yng Nghymru a'i fod yn amharchus gofyn cwestiwn trwy gyfrwng y Gymraeg! Cred Cymdeithas yr Iaith fod yr anwybodaeth yma yn amlygu'r diffyg hyfforddiant a gynigir gan gwmiau mawrion i'w staff ynghylch Cymru a'r iaith Gymraeg.
20/12/2007 - 23:30
Mae'n achos balchder mawr i Gymdeithas yr Iaith fod swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gar wedi argymell i Bwyllgor Cynllunio y Cyngor, y dylai'r cais i adeiladu 50 o dai ym Mhont-Tyweli gael ei wrthod.
17/12/2007 - 22:53
Mae Cyngor Abertawe dal i lusgo'i traed ynghylch ei polisi iaith yn y ddinas meddai aelodau Abertawe o Gymdeithas yr Iaith. Er gwaetha'r ffaith fod y Cyngor wedi datgan ar sawl achlysur ei bod yn hybu dwyieithrwydd yn y ddinas, yn ymarferol maent yn hollol ddiffygiol yn gwireddu hyn.
11/12/2007 - 20:30
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol Cymraeg i ddod yn llu i'r brotest yng Nghaernarfon cyn cyfarfod allweddol Cyngor Sir Gwynedd, am 12 o'r gloch Dydd Iau yma (13/12/07). Dywed y Gymdeithas fod y pwysau o gymunedau lleol eisioes wedi llwyddo i newid strategaeth y Cyngor Sir ac mai'r werth yw fod angen pwyso o hyd.
10/12/2007 - 00:09
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn sefyll o flaen adeilad y Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin bore fory (Llun 10/12)am 9.30am i ddangos eu cefnogaeth i frwydr cymuned Llanarthne dros gadw eu hysgol.Unwaith eto mae'r Cyngor Sir wedi dangos eu hawydd i wthio eu hagenda drwodd mor gyflym a phosibl heb ystyried barn nac anghenion y gymuned.
08/12/2007 - 15:49
Am 2.30 prynhawn dydd Sadwrn 08.12.07 fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal protest tu allan i siop gadwyn Morrisons ym Mangor. Hon oedd y drydedd mewn tair protest i Gymdeithas yr Iaith ei chynnal yn erbyn y cwmni hwn. Bythefnos yn ôl cynhaliwyd protest yn erbyn Morrisons Caerfyrddin, yna dydd Sadwrn diwethaf bu protest debyg yn erbyn Morrisons Aberystwyth.
05/12/2007 - 20:31
Am 11 o'r gloch bore heddiw fe wnaeth dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfarfod a'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas AC yng Nghaerdydd i drafod cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer deddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg.
02/12/2007 - 00:38
Am dri chwarter awr heddiw bu 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu allan i Siop Morrisons yn Aberystwyth. Roedd presenoldeb cryf o'r heddlu yno a daeth y brotest i ben pan gyflwynodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, lythyr i reolwr y siop. Hon oedd yr ail mewn cyfres o dair protest yn erbyn Morrisons a gynhelir gan y Gymdeithas.
29/11/2007 - 20:15
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cwmni Datblygu Tai Eatonfield - am ddefnyddio hen driciau eu masnach ym Mhont-Tyweli, Llandysul. Bwriada'r cwmni adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli gyda chaniatad ar gyfer codi 31 ohonynt wedi ei roi 16 mlynedd yn ol.
27/11/2007 - 21:39
Heddiw (Dydd Mawrth, Tachwedd 27 2007) fe fydd grwpiau ymgyrchu ym maes Addysg Gymraeg yn y Sector Addysg Uwch yn cyflwyno dogfen sylweddol a manwl i'r Gweinidog Addysg er diben hwyluso a phrysuro eu gweithrediad o'i polisi Coleg Ffederal Cymraeg.