Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi cyhoeddi cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2007 gyda’r ffeinal i’w chynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug fis Awst, a phecyn gworbrau gwych fel arfer i’r enillwyr. Nôd y gystadleuaeth yw dod o hyd i a rhoi llwyfan i dalentau newydd Cymraeg a rhoi hwb ymlaen iddynt fod yn llwyddianus yn y Sin Roc Gymraeg am flynyddoedd i ddod.