Archif Newyddion

10/02/2025 - 17:38
Rydyn ni wedu hoeddi enwau artistiaid gigs wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni, a fydd yn digwydd mewn dau leoliad. Bydd cerddoriaeth fyw gan Pedair, Gwibdaith Heb Frân, Plu, Geraint Lovgreen, Gai Toms, Ani Glass ac eraill bob nos rhwng 2 a 9 Awst yn Saith Seren, sef y ganolfan Gymraeg a sefydlwyd yn y dref fel gwaddol i lwyddiant ymweliad diwethaf yr Eisteddfod Genedlaethol â Wrecsam yn 2011.
04/02/2025 - 11:12
Cyn ein rali fawr dros addysg Gymraeg i bawb, mae Mabli Siriol, un o siaradwyr y rali, wedi datgan bod angen i unrhyw un sydd eisiau addysg Gymraeg i bawb “fynd â’r neges at Fae Caerdydd” er mwyn sicrhau bod cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer addysg Gymraeg yn cael eu cryfhau.
31/01/2025 - 12:20
Mae gan Gymdeithas yr Iaith gyfle cyffrous i unigolyn angerddol a gweithgar ymuno â’n tîm, naill ai fel Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol neu fel Swyddog Ymgyrchoedd. Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol
29/01/2025 - 18:16
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn cael ei chynnal yn Nefyn, ym Mhen Llŷn gyda’r nod o sicrhau bod dyfodol cymunedau Cymru “yn flaenoriaeth” i wleidyddion Cymru o flaen etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026.
22/01/2025 - 13:51
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gyflwyno mesur newydd i gyfyngu ar niferoedd o ail dai a llety gwyliau, gan annog awdurdodau cynllunio eraill i ddilyn ei hesiampl.
17/01/2025 - 13:23
Rydyn ni wedi galw ar swyddogion cwmni radio masnachol Global Radio i wrthdroi ei benderfyniad i ddiddymu darpariaeth Gymraeg Capital North Wales, ac wedi gofyn i’r awdurdod rheoleiddio ar gyfer telethrebu, Ofcom, am ei ran yn y penderfyniad. Mae’n debyg i Global wneud y penderfyniad yn sgil cyflwyno Deddf Cyfryngau newydd gan Senedd San Steffan y llynedd, wnaeth ddiddymu unrhyw reoliadau ar gynnwys a fformatio gorsafoedd radio masnachol. Mae hyn yn cadarnhau’r angen i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.
14/01/2025 - 12:59
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi arddangos cadwyn bapur ar ffurf plant ar risiau’r Senedd er mwyn galw am addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn cyn pleidlais ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg Gymraeg. Comisiynwyd yr arlunydd Osian Grifford i lunio'r gwaith er mwyn pwysleisio bod y gyfundrefn addysg yn amddifadu 80% o blant o'r Gymraeg ar hyn o bryd, ac i bwyso am newid er mwyn rhoi'r Gymraeg i bawb yn y dyfodol.
03/01/2025 - 12:50
Wrth ddymuno blwyddyn newydd dda i’r Prif Weinidog, rydyn ni wedi gadael cerdyn Calan yn swyddfa Eluned Morgan yn Hwlffordd heddiw i atgoffa'r Llywodraeth bod angen gwneud llawer mwy os ydyn nhw am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, gan mai dim ond 25 mlynedd sydd ar ôl. Dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
18/12/2024 - 12:51
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle, i ddefnyddio'r adolygiad cyfredol o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion i ddatgan yn gwbl eglur bod y rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol gychwyn o safbwynt ceisio eu cynnal a'u cryfhau, ac ystyried eu cau os bydd pob opsiwn arall yn methu.
13/12/2024 - 11:02
Wrth feirniadu adroddiad newydd gan bwyllgor Seneddol am beidio dwyn y Llywodraeth i gyfrif am wendidau yn eu cynlluniau ar gyfer dyfodol addysg Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal rali ar risiau’r Senedd i gefnogi’r “80% o’n plant sy’n gadael yr ys