Archif Newyddion

14/08/2023 - 11:19
Mae Cymdeithas yr Iaith yn annog trigolion lleol i ymweld ag uned Cyngor Sir Môn yn Sioe Môn (Dydd Mawrth, 15 Awst a Dydd Mercher, 16 Awst) i'w holi a ydy'r Cyngor unwaith eto am geisio cau ysgolion gwledig yr ynys. Mae dogfen fewnol gan y Cyngor Sir wedi dod i feddiant y Gymdeithas sydd, fe ymddengys, yn argymell cau 14 o ysgolion cynradd cyn diwedd y ddegawd, a chreu tair ysgol newydd i ganoli addysg. Esboniodd Robat Idris, Cadeirydd Cenedlaethol y Gymdeithas:
10/08/2023 - 12:26
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio partneriaeth gyda Chyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) mewn cam pwysig i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Ar stondin y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 2.30yh ddydd Iau 10 Awst, arwyddodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, a Siân Gale, Llywydd Etholedig TUC Cymru, Femorandwm Dealltwriaeth i lansio’r bartneriaeth hon.
09/08/2023 - 15:32
Cyhoeddodd Walis George yn rali Nid yw Cymru ar Werth heddiw y bydd ‘Seminar Rhyngwladol ar yr Hawl i Dai Digonol a Deddf Eiddo’ yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith fis Hydref. 
09/08/2023 - 10:47
Yn rali Nid yw Cymru ar werth ar Faes yr Eisteddfod am 2yh ddydd Mercher (9 Awst), bydd Cymdeithas yr Iaith yn gwneud cyhoeddiad pwysig am ddigwyddiad rhyngwladol a fydd yn rhoi dimensiwn newydd i’r ymgyrch.
06/08/2023 - 21:30
Mewn sgwrs heddiw fe wnaeth Angharad Tomos, Tamsin Davies, Siân Howys, Enfys Llwyd, Helen Greenwood, Haf Elgar a Menna Machreth yn trafod eu profiadau fel merched o fewn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith. Mae'r sgwrs yn rhagflaenu lansiad cyfrol, ‘Merched Peryglus’, yn hwyrach eleni. Mae pob un o gyfranwyr y gyfrol wedi gweithredu’n uniongyrchol dros hawliau i’r Gymraeg, ac yn achos Enfys Llwyd ac Angharad Tomos, wedi treulio amser yn y carchar dros yr Iaith. Dywedodd un o olygyddion y gyfrol, Tamsin Davies:
06/08/2023 - 13:23
Mae Ffred Ffransis yn dechrau ar ympryd 75 awr am 12yp heddiw (6 Awst). Bydd yn dod â’i ympryd i ben ar ddiwedd rali Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith.  Yn siarad cyn yr ympryd dywedodd:
04/08/2023 - 12:30
Taflodd y dirprwy barnwr Owain Williams achos One Parking Solution yn erbyn Toni Schiavone o'r llys y bore yma (4 Awst), gan i’r cwmni parcio oedi gormod cyn lansio'r apêl a chyflwyno’r achos dan reolau anghywir.
02/08/2023 - 14:36
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu adroddiad a ryddhawyd heddiw gan banel annibynnol ar ddarlledu sy’n argymell sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru. Sefydlwyd y panel gan Lywodraeth Cymru i ystyried dyfodol darlledu. Meddai Mirain Owen, o Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
01/08/2023 - 11:31
Bydd Toni Schiavone yn ymddangos gerbron y llys eto fore ddydd Gwener yma (Awst 4) gan bod cwmni parcio One Parking Solutions yn parhau i wrthod darparu dirwy parcio na gohebiaeth Gymraeg. Bu Toni yn y llys fis Mai eleni yn barod, a gan iddo fynnu achos yn Gymraeg roedd rhaid i One Parking Solutions gyfieithu’r holl bapurau, gan gynnwys y ddirwy ei hun. Ni ymddangosodd One Parking Solutions i’r achos llys fis Mai, a felly taflwyd ef allan. Mae’r achos bellach yn ôl yn y llys.
28/07/2023 - 12:07
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw at eu hymrwymiad i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar reilffyrdd Cymru. Ers i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ddod dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2021, maent yn ddarostyngedig i Safonau Iaith Gweinidogion Cymru. Mae disgwyl Safonau Iaith penodol yn y sector trafnidiaeth cyn diwedd y tymor Seneddol.