Archif Newyddion

10/11/2023 - 16:57
Anerchodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, ddechrau ‘Taith Deddf Eiddo’ Cymdeithas yr Iaith ym Maes Caernarfon heddiw (dydd Gwener, 10 Tachwedd).
07/11/2023 - 11:10
Mae 47 o fudiadau ar draws cymdeithas sifil Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, i gefnogi cadoediad yn Gaza a heddwch a chyfiawnder i holl bobl Israel a Phalesteina. 
26/10/2023 - 15:19
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Gyngor Sir Ceredigion i ddefnyddio ei bwerau newydd i rwystro’r twf mewn ail gartrefi. 
14/10/2023 - 13:23
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal piced y tu allan i Swyddfa Bost Aberystwyth heddiw (14 Hydref) yn dilyn cwynion gan ei haelodau a’i chefnogwyr am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg yno.
12/10/2023 - 13:15
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder dros ganfyddiadau adroddiad blynyddol interim Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn, gan ddweud eu bod yn “gadarnhad pellach” o fethiant ysgolion cyfrwng Saesneg i greu siaradwyr Cymraeg hyderus. Ategodd y mudiad ei galwad ar Lywodraeth Cymru i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn erbyn 2050. Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
11/10/2023 - 14:39
Ar 7 Hydref, cynhaliodd ELEN (European Language Equality Network) ei Chynulliad Cyffredinol yn Casteddu (Cagliari), prifddinas Sardinia. Mae ELEN yn uno 174 o fudiadau iaith, sy’n cynrychioli 50 o ieithoedd lleiafrifol a 50 miliwn o siaradwyr ar draws 25 gwlad. Roedd Cymdeithas yr Iaith yn un o’r mudiadau a fynychodd y Cynulliad.
07/10/2023 - 14:58
Mae Joseff Gnagbo wedi ei ethol yn Gadeirydd cenedlaethol newydd Cymdeithas yr Iaith yn ein Cyfarfod Cyffredinol yng Nghaernarfon heddiw (Dydd Sadwrn, 7 Hydref). Mae Joseff, sydd â phrofiad fel Swyddog Rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith, wedi bod yn weithgar gyda’r mudiad a Chell Caerdydd y Gymdeithas ers sawl blwyddyn.
29/09/2023 - 17:48
Ddeng mlynedd ers cyhoeddi adroddiad ‘Un Iaith i Bawb’, a oedd yn argymell dileu Cymraeg ail iaith a chreu un llwybr dysgu Cymraeg yn ei le, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo’r Llywodraeth o ddiffyg gweithredu sy’n golygu bod mwyafrif disgyblion Cymru yn dal i adael yr ysgol heb y gallu i siarad Cymraeg.
21/09/2023 - 09:48
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi arwyddo llythyr agored gan yr awdur a’r darlledwr Mike Parker sy’n galw ar Lywodraeth Cymru, Cymru Greadigol a Chyngor Llyfrau Cymru i ailstrwythuro a wella cyllid craidd cylchgronau, cyfnodolion a gwefannau yng Nghymru, gan ddweud eu bod yn “allweddol” ar
21/09/2023 - 09:18
Bydd cyfarfod agored heno yng Nganolfan Cymunedol Glantwymyn sydd wedi’i drefnu gan Gymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Sir Powys i beidio â cholli “cyfle euraidd” i dyfu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg y sir.  Ddoe, trafododd Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau gynlluniau i ad-drefnu ysgolion yn ardal Llanfair Caereinion, Llanfyllin a’r Trallwng, a fydd yn dod gerbron cyfarfod Cabinet wythnos nesaf. Dywedodd Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: