Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Brifysgol Aberystwyth i beidio â dileu tair swydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Mewn llythyr at yr Is-Ganghellor Elizabeth Treasure mae'r Gymdeithas yn nodi y byddai colli'r swyddi hyn yn groes i ddyletswyddau cendlaethol a rhyngwladol y Brifysgol.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg heddiw y bydd o hyn allan rhagdyb o blaid ysgolion gwledig, ac yn galw am ddatblygu'r ysgolion yn gadarnhaol i adfywio'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae'r Gymdeithas hefyd wedi talu teyrnged i'r dwsinau o gymunedau sydd wedi brwydro dros addysg eu plant.
Bydd rhaid i'r mwyafrif o blant gael eu haddysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg erbyn2030 er mwyn cyrraeddtarged Llywodraeth Cymru, sef bod miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn canol y ganrif, yn ôl gwaith ymchwil mudiad iaith.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o arian i wasanaethau'r prosiect 'Cymraeg i Blant', sy'n hybu defnydd y Gymraeg yn y teulu.