Rydyn ni wedi galw ar Aelodau Cynulliad i wneud adduned blwyddyn newydd i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y Cynulliad wedi i'n hymchwil ddangos bod defnydd o'r iaith yn y Siambr wedi gostwng yn 2015. 11.8% yn unig o'r cyfraniadau yn y Siambr gafodd eu gwneud yn Gymraeg yn 2015, o gymharu â 12.7% yn 2014.