Dogfennau a Erthyglau

Cyflwyniad

Trwy gyfrwng y broses gynllunio mae pobl yn gallu mynegi eu gweledigaeth o ddyfodol eu cymunedau. O ganlyniad mae Cymdeithas yr Iaith wedi dadlau ers blynyddoedd ei bod hi'n hollbwysig i sicrhau lle canolog ac ystyrlon i anghenion y Gymraeg yn y maes hwn.

Gydag etholiad cynghorau sir newydd, galwn am bartneriaeth newydd rhwng y Cynulliad ac awdurdodau lleol i ddatblygu ein hysgolion pentre'n ganolfannau addysg ac adfywio cymunedol. Yn lle ymosod ar ein hysgolion pentre, dylid cydnabod eu llwyddiant a'u defnyddio fel model ar gyfer datblygu adnoddau addysgiadol ac adfywio cymunedol ym mhob cymdogaeth yng Nghymru.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i’r ymgynghoriad ar Gynigion Adolygu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus gan Ofcom, Ebrill 2005

Lawrlwytho'r ddogfen (pdf)

Yn y papur hwn, ystyriwn oblygiadau cynlluniau Cyngor Sir Gâr mewn perthynas uniongyrchol â chyfrwng addysgu plant yn y sir. Cyflwynwn dystiolaeth sy’n dangos y gall y strategaeth arwain yn uniongyrchol at leihad sylweddol yn nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir Gâr ac y bydd yn tanseilio’r polisi y brwydrwyd mor galed i’w gyflwyno – sef cyflwyno addysg yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg trwy ysgolion Categori A.

Mae bellach yn dair mlynedd ar ddeg ers i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhoeddi Llawlyfr Deddf Eiddo. Amserol felly yw adolygu, diwygio a diweddaru'r llawlyfr gwreiddiol yn sgil y datblygiadau a welwyd yn ystod y 1990au ac ym mlynyddoedd cyntaf y ganrif newydd ym maes tai a chynllunio...

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen llawn. Byddwch yn amyneddgr, dogfen PDF yw hon, a gall gymryd peth amser i'w lawrlwytho.

Siarter ar gyfer Colegau Menai, Meirion-Dwyfor, Sir Gâr a Cheredigion.

1. Mae’r Colegau hyn o’r pwys mwyaf i’n cymunedau Cymraeg gan eu bod yn darparu addysg llawn-amser i bobl ifainc sydd, at ei gilydd, yn bwriadu ymgartefu yn y cymunedau Cymraeg hyn ac addysg rhan-amser i filoedd yn rhagor o drigolion hŷn y cymunedau...

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen llawn. (Dogfen PDF)

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr er mwyn gosod seiliau cadarn ar gyfer
normaleiddio defnydd o’r Gymraeg...

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF:
Lawrlwytho'r Ddogfen Cymraeg (316KB)
Lawrlwytho'r Ddogfen Saesneg (332KB)

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y cyrff cyhoeddus hynny sydd yn gwasanaethu ein cymunedau Cymraeg, i gymryd camau pendant ar frys i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn dod yn hanfodol i'w holl waith. Mae cymryd camau o'r fath yn angenrheidiol os ydym am normaleiddio'r defnydd o’r iaith Gymraeg fel cyfrwng byw o fewn ein cymunedau...