Dogfennau a Erthyglau

TYSTIOLAETH I GYNGOR SIR CAERFYRDDIN AC I'R GWEINIDOG ADDYSG JANE DAVIDSON AR RAN LLYWODRAETHWYR YSGOL GYNRADD WIRFODDOL LLANFIHANGEL-AR-ARTH - MEWN CYDWEITHREDIAD A GRWP ADDYSG CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG.

1. Y BROSES YMGYNGHOROL

1.1 Cyflwynwn y dystiolaeth hon fel rhan oír broses ymgynghorol ar ddyfodol addysg gynradd yn yr ardal hon.

Dyma'r cyflwyniad 'Power Point' a gafodd ei ddefnyddio yn ystod Lobi Y Gymraeg - Hawliau Cyfartal? yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mawrth 2006. Yn cyfrannu i'r lobi yr oedd Leanne Wood (AC Plaid Cymru), Catrin Dafydd (Caeirydd grwp Deddf Iaith), Alun Thomas (Comisiwn Hawliau Anabledd), Chris Myant (Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol). Mae'r cyflwyniad wedi ei drosi i PDF:

Lawrlwytho'r Cyflwyniad dwyieithog (384KB)

Mesur yr Iaith Gymraeg 2007 (PDF, 112KB)

Mesur a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu i’r iaith Gymraeg, a hithau’n briod iaith Cymru, fod yn iaith swyddogol yng Nghymru; i roi hawliau i bobl Cymru gael gwasanaethau yn Gymraeg, gweithio yn Gymraeg a dysgu’r Gymraeg; i sefydlu Comisiynydd Iaith Cymru; i sefydlu Cyngor yr Iaith Gymraeg; ac i ddibenion cysylltiedig.

Enghraifft o eiriad Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Example of the wording of a Legislative Competence Order (LCO).

Mesur Iaith / Language Measure LCO (pdf) 119kb

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Bapur Ymgynghorol Awdurdod S4C ‘Gwasanaethu Plant yn y Dyfodol Digidol’, Gorffennaf 2007

Lawrlwytho'r Ddogfen (pdf)

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod na ellid cynnal yr holl rwydwaith o ysgolion pentrefol fel y mae. Mae pwysau o bob cyfeiriad ar yr ysgolion ac nid ydym yn dymuno gweld dirywiad. Mynnwn fod llawer o ysgolion pentrefol sy’n hollol hyfyw fel y maent, ond ni ellir cynnal y statws quo mewn llawer o’r ysgolion pentrefol eraill. Cytunwn yn llwyr fod yn rhaid rhesymoli – y ddadl yw rhwng rhesymoli negyddol trwy’r broses di-ddychymyg o gau ysgolion NEU resymoli cadarnhaol trwy osod strwythurau newydd gan gydweithio gyda rhieni, llywodraethwyr a chymunedau lleol.

Cydnabyddwn fod y Cyngor Sir wedi gwneud llawer fwy o ymdrech o ran ymgynghori a phobl Gwynedd am ddyfodol y rhwydwaith o ysgolion nag sydd wedi digwydd mewn siroedd eraill....

Ymateb Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith i ddrafft-gynllun Cyngor Sir Gwynedd Ad-drefnu Ysgolion Cynradd y Sir - Tachwedd 2007 (pdf)

Yn dilyn ein papur ymateb gwreiddiol i strategaeth ddrafft y Cyngor Sir, yr ydym yn awr yn cynnig y papur atodol hwn yn dilyn y diwygio sylweddol a fu ar gynllun y Cyngor o flaen eu cyfarfod ar 13.12.07. Yr ydym yn dal o’r farn (gweler ein hymateb gwreiddiol) fod y Cyngor wedi cyhoeddi ymchwil llawer mwy helaeth nag a wnaed mewn siroedd eraill ac wedi gwneud ymdrechion sylweddol (ond ffaeledig yn ein tyb ni) o ran ymgynghori...

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon ymateb cychwynnol i raglen "moderneiddio" ysgolion cynradd Sir Conwy. Mae amserlen y cyngor o ran adolygu holl ysgolion cynradd y sir i'w weld ar wefan y Cyngor, a defnyddir yr un iaith arferol am yr angen i gwtogi ar lefydd gwag a gwella adeiladau a chanrifoedd newydd ! Mae bygythiad ymhlyg i nifer o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir, ond nid enwyd eto unrhyw ysgolion.

Mae'r Gymdeithas wedi danfon yr ymateb cychwynnol canlynol at yr arolwg, a gobeithir y bydd eraill yn ategu'r pwyntiau hyn -

Rydym bellach wedi profi dros ddeng mlynedd o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ac wedi profi llywodraethau yn cynnwys y blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Nodweddwyd y deng mlynedd diwethaf gan amrywiaeth o bolisïau ar yr iaith Gymraeg. Pwrpas cyntaf y pamffledyn hwn yw dadlau na fu yr un o’r polisïau yma, o Iaith Pawb hyd at y sefyllfa bresennol gyda chlymblaid Cymru’n Un, o ddifrif ynglŷn a sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg, un ai oherwydd diffyg ewyllys neu ddiffyg ymarferol.