Dogfennau a Erthyglau

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i’r ymgynghoriad ar Gynigion Adolygu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus gan Ofcom, Ebrill 2005

Lawrlwytho'r ddogfen (pdf)

Yn y papur hwn, ystyriwn oblygiadau cynlluniau Cyngor Sir Gâr mewn perthynas uniongyrchol â chyfrwng addysgu plant yn y sir. Cyflwynwn dystiolaeth sy’n dangos y gall y strategaeth arwain yn uniongyrchol at leihad sylweddol yn nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir Gâr ac y bydd yn tanseilio’r polisi y brwydrwyd mor galed i’w gyflwyno – sef cyflwyno addysg yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg trwy ysgolion Categori A.

Mae bellach yn dair mlynedd ar ddeg ers i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhoeddi Llawlyfr Deddf Eiddo. Amserol felly yw adolygu, diwygio a diweddaru'r llawlyfr gwreiddiol yn sgil y datblygiadau a welwyd yn ystod y 1990au ac ym mlynyddoedd cyntaf y ganrif newydd ym maes tai a chynllunio...

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen llawn. Byddwch yn amyneddgr, dogfen PDF yw hon, a gall gymryd peth amser i'w lawrlwytho.

Siarter ar gyfer Colegau Menai, Meirion-Dwyfor, Sir Gâr a Cheredigion.

1. Mae’r Colegau hyn o’r pwys mwyaf i’n cymunedau Cymraeg gan eu bod yn darparu addysg llawn-amser i bobl ifainc sydd, at ei gilydd, yn bwriadu ymgartefu yn y cymunedau Cymraeg hyn ac addysg rhan-amser i filoedd yn rhagor o drigolion hŷn y cymunedau...

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen llawn. (Dogfen PDF)

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr er mwyn gosod seiliau cadarn ar gyfer
normaleiddio defnydd o’r Gymraeg...

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF:
Lawrlwytho'r Ddogfen Cymraeg (316KB)
Lawrlwytho'r Ddogfen Saesneg (332KB)

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y cyrff cyhoeddus hynny sydd yn gwasanaethu ein cymunedau Cymraeg, i gymryd camau pendant ar frys i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn dod yn hanfodol i'w holl waith. Mae cymryd camau o'r fath yn angenrheidiol os ydym am normaleiddio'r defnydd o’r iaith Gymraeg fel cyfrwng byw o fewn ein cymunedau...

Mawrth 1997. Dyma Gymdeithas yr Iaith...

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF: lawrlwytho'r ddogfen

Y Ddarlith a Newidiodd Hanes Cymru

ADDYSG 16+ MEWN YSGOLION

Yn draddodiadol, bu rhwyg rhwng addysg academaidd 'chweched dosbarth' ac addysg alwedigaethol mewn sefydliadau eraill. Bu Ilawer o bwyso dros y blynyddoedd i sicrhau'r hawl i addysg academaidd yn y Gymraeg a, Ile bo chweched dosbarthiadau'n parhau, bydd Cymdeithas yr laith Gymraeg yn pwyso am