Rydym bellach wedi profi dros ddeng mlynedd o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ac wedi profi llywodraethau yn cynnwys y blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Nodweddwyd y deng mlynedd diwethaf gan amrywiaeth o bolisïau ar yr iaith Gymraeg. Pwrpas cyntaf y pamffledyn hwn yw dadlau na fu yr un o’r polisïau yma, o Iaith Pawb hyd at y sefyllfa bresennol gyda chlymblaid Cymru’n Un, o ddifrif ynglŷn a sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg, un ai oherwydd diffyg ewyllys neu ddiffyg ymarferol.