Fe feddianodd tua 20 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg stiwdio Radio Carmarthenshire yn Arberth y bore yma, a thorri ar draws darllediad byw. Roedd modd clywed gwaeddiadau o 'Ble Mae'r Gymraeg?' yn fyw ar y Radio. Roedd yn rhaid i Radio Carmarthenshire atal y darllediad am bron i funud ac nid oedd modd iddynt ddarlledu bwletin newyddion 12pm.