Archif Newyddion

30/09/2005 - 10:20
Am 2 o’r gloch prynhawn yfory (Sadwrn, Hydref 1), tu allan i bencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal rali bwysig yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.
22/09/2005 - 11:37
Mae tair chwaer ymysg chwech o ferched sydd wedi eu harestio y bore yma ar ol paentio sloganau yn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith newydd ym Mhencadlys Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays Caerdydd.
20/09/2005 - 11:27
Am hanner awr wedi deg fore dydd Iau yr 22ain o Fedi, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal cynhadledd i’r wasg ar risiau Pencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.
19/09/2005 - 11:44
Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi trafod heddiw cychwyn amserlen o ymgynghori lleol a allai arwain at gau yn y pendraw hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg.
09/09/2005 - 13:37
Cred Cymdeithas yr Iaith mai mynd ati yn y dull hen ffasiwn o gau ysgolion, er mwyn arbed arian yn hytrach na ‘moderneiddio’ yw Agenda Cyngor Sir Gaerfyrddin, gan nad oes ganddynt unrhyw fodd i gyllido'u Cynllun.
02/09/2005 - 14:04
Bydd cynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith yn protestio gyda rhiant heddiw, o flaen Ysgol Breifat Howell i ferched yn Ninbych ar ddiwrnod derbyn disgyblion newydd. Byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod ysgolion preifat yng Nghymru’n cael amddifadu’u disgyblion yn gyfangwbl o addysg Gymraeg ac o bob elfen o’r cwricwlwm Cymreig. Nid oes lle i drefn o’r fath yn y Gymru gyfoes.
19/08/2005 - 09:27
Yn dilyn ymateb Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol pan ddywedodd bod yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd a’r drafodaeth am ddyfodol am yr iaith Gymraeg yn "Boring, Boring, Boring", penderfynodd Cymdeithas yr Iaith mewn cyfarfod neithiwr, i alw arno i ymddiswyddo’n syth yn hytrach nag aros am 4 mlynedd arall.
04/08/2005 - 18:30
Mewn dogfen a gaiff ei lansio ar faes yr Eisteddfod heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ‘ail chwyldro’ i wneud y sgil i ddefnyddio’r Gymraeg yn hafodol i holl addysg ol-16 yn yr ardaloedd Cymraeg.
03/08/2005 - 19:52
Mae Steffan Cravos - Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith - newydd gael ei ryddhau gan Heddlu Caernarfon wedi treulio'r rhan fwyaf o'r 24 awr diwethaf yn y ddalfa.
03/08/2005 - 11:25
Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir am 2 o’r gloch prynhawn yma (Mercher 3/8/05), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn tynnu sylw at enghraifft arall o agwedd ddi-hid Llywodraeth y Cynulliad tuag at ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Y pwnc trafod y tro hwn fydd yr argyfwng tai, sydd yn tanseilio rhagolygon cymaint o gymunedau ledled y wlad.