Archif Newyddion

03/11/2005 - 11:41
Mae aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn wynebu achos llys am iddi wrthod llofnodi ffurflen uniaith Saesneg. Dydd Llun diwethaf cafodd Mair Stuart o'r Barri ei harestio am beintio slogan yn galw am Ddeddf Iaith ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd. Bwriad yr heddlu i ddechrau oedd rhoi rhybudd swyddogol iddi a'i rhyddhau.
02/11/2005 - 20:00
Bu cynrychiolwr o gymunedau o wahanol rannau o Gymru yn ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw i fynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu ar frys er mwyn sicrhau eu dyfodol.
31/10/2005 - 11:13
Heddiw, Mair Stuart oedd yr unfed aelod ar ddeg mewn cyfres o weithredwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i baentio sloganau ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yn galw am Ddeddf Iaith newydd. Targedwyd adeilad llywodraeth y Cynulliad bron yn wythnosol ers diwedd Medi.
29/10/2005 - 18:00
Daeth dros 200 o gefnogwyr i Rali ‘Dyfodol i’n Cymunedau’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y Maes yng Nghaernarfon heddiw. Yn ystod y Rali fe bwysleisiodd Huw Lewis (Cadeirydd y Grwp Deddf Eiddo) na fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020, os bydd y tueddiadau presenol yn parhau.
29/10/2005 - 09:00
Yn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddodd y Western Mail erthygl gan Alun Pugh (Gweinidog Diwylliant a'r Iaith Gymraeg) a oedd yn ymosod ar aelodau Cymdeithas yr Iaith, a'u cyhuddo o wisgo 'blinkers'. Heddiw, cyhoeddodd y Western Mail ymatebiad Steffan Cravos - Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
28/10/2005 - 15:04
Dros nos bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg allan yn gweithredu dros Ddeddf Iaith newydd yn Aberystwyth drwy ludio sticeri 'Ble Mae'r Gymraeg' a Deddf Iaith Newydd ar siopau a busnesau yn y dre.
25/10/2005 - 16:20
Mewn Cyfarfod Cyhoeddus a gynhelir am 7pm heno yng Ngwesty Llwyn Iorwg (Ivy Bush) Caerfyrddin bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol o bob cwr i ymuno a phob cymuned leol yn y sir pan fygythir yr ysgol.
24/10/2005 - 15:55
Cafodd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfanswm dirwyon a chostau o £1,025 gan Lys Ynadon Caernarfon heddiw am beintio sloganau yn galw am Ddeddf Iaith ar waliau siop Morison ym Mangor yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Roedd wedi pledio'n ddieuog.
21/10/2005 - 20:58
Bydd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caernarfon am 10 o’r gloch dydd Llun Hydref 24ain.
20/10/2005 - 14:42
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf y Fforwm Iaith newydd a gynhelir am 6pm yn y 'Ganolfan' ym Mhorthmadog heno. Dyma’r corff newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac sy’n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh.