Archif Newyddion

18/10/2005 - 09:52
Mae dau aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cael eu harestio a’u hebrwng i Swyddfa’r Heddlu yng Nghaerdydd, bore 'ma.
13/10/2005 - 10:01
Yn ystod yr hanner awr ddiwethaf arestiwyd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am beintio sloganau yn datgan 'Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle' ar waliau pencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.
13/10/2005 - 09:14
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi galw ar Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant y Cynulliad, i gondemnio Cyngor Sir Caerfyrddin am eu strategaeth addysg a allai arwain at gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg.
01/10/2005 - 08:59
Mewn rali genedlaethol yn galw am Ddeddf Iaith Newydd, a gynhelir am 2pm heddiw tu allan i bencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi y bydd gweithredu uniongyrchol cyson gan aelodau’r mudiad, rhwng nawr a’r Nadolig.
30/09/2005 - 10:20
Am 2 o’r gloch prynhawn yfory (Sadwrn, Hydref 1), tu allan i bencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal rali bwysig yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.
22/09/2005 - 11:37
Mae tair chwaer ymysg chwech o ferched sydd wedi eu harestio y bore yma ar ol paentio sloganau yn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith newydd ym Mhencadlys Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays Caerdydd.
20/09/2005 - 11:27
Am hanner awr wedi deg fore dydd Iau yr 22ain o Fedi, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal cynhadledd i’r wasg ar risiau Pencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.
19/09/2005 - 11:44
Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi trafod heddiw cychwyn amserlen o ymgynghori lleol a allai arwain at gau yn y pendraw hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg.
09/09/2005 - 13:37
Cred Cymdeithas yr Iaith mai mynd ati yn y dull hen ffasiwn o gau ysgolion, er mwyn arbed arian yn hytrach na ‘moderneiddio’ yw Agenda Cyngor Sir Gaerfyrddin, gan nad oes ganddynt unrhyw fodd i gyllido'u Cynllun.
02/09/2005 - 14:04
Bydd cynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith yn protestio gyda rhiant heddiw, o flaen Ysgol Breifat Howell i ferched yn Ninbych ar ddiwrnod derbyn disgyblion newydd. Byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod ysgolion preifat yng Nghymru’n cael amddifadu’u disgyblion yn gyfangwbl o addysg Gymraeg ac o bob elfen o’r cwricwlwm Cymreig. Nid oes lle i drefn o’r fath yn y Gymru gyfoes.