Mewn cyfarfod bore yma gydag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Ceredigion, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith eu galwad am sefydlu gweithgor arbennig er mwyn cynnal arolwg brys o sefyllfa’r iaith Gymraeg yng Ngheredigion.
Mae Gwyn Sion Ifan, Rheolwr Awen Meirion wedi beirniadu Cyllid y Wlad yn hallt iawn am ragfarnu yn erbyn busnesau sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am 11am bore yma (Llun 28.3.05), dringodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ben twr uchaf Castell Caernarfon, gan arddangos baner enfawr a oedd yn datgan ‘Deddf Eiddo – Tai i bobl leol’.
Mewn ymateb i adroddiad gan y corff arolygu addysg Estyn a oedd yn datgan nad oedd digon o gyfleoedd yn Sir Gaerfyrddin i bobl ifanc fwynhau gweithgareddau hamdden yn Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y Cyngor Sir i ddal ar y cyfle i fywiogi ein cymunedau pentrefol Cymraeg.
Neithiwr, bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gweithredu yn erbyn arosfannau 'Bws Caerdydd' yn y brifddinas. Dywedodd Steffan Cravos, aelod o Ranbarth Morgannwg Gwent Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
Daeth croesdoriad o fudiadau a sefydliadau Cymreig i’r Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddydd Sadwrn yn Aberystwyth.
Heddiw mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu aelodau o Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol am nad oes dim un ohonynt wedi cytuno i dderbyn gwahoddiad i fynychu’r Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith Newydd a gynhelir yn Aberystwyth y dydd Sadwrn hwn.