Archif Newyddion

01/06/2005 - 23:42
Am 3 o’r gloch prynhawn Dydd Iau, Mehefin 2il bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Fforwm Drafod ar Ddyfodol Darlledu Cymraeg yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd.
01/06/2005 - 21:11
Bydd Catrin Dafydd - enillydd y Fedal lenyddiaeth yn yr Eisteddfod Dydd Llun, a Chadeirydd Grwp Deddf Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - yn cymryd rhan yn y cyfarfod cyhoeddus pwysicaf a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Bydd y cyfarfod, o dan y teitl 'Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle', yn cael ei gynnal yn yr Eglwys Norwyaidd am 3.30 prynhawn dydd Mercher Mehefin 1af.
30/05/2005 - 22:27
Mewn protest (3.30pm heddiw Llun 30/5) wrth uned Llywodraeth y Cynulliad ar faes Eisteddfod yr Urdd, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y gwrthbleidiau ac A.C’au Llafur sy’n gefnogol i ysgolion pentrefol i ymuno i drechu’r llywodraeth yn y Cynulliad, fel y llwyddwyd i’w wneud o ran ffioedd myfyrwyr yr wythnos ddiwethaf.
27/05/2005 - 16:27
Fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth neithiwr yn glynu sticeri ar siopau cadwyn, banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn y dref. Roedd y sticeri hyn yn galw am 'Ddeddf Iaith Newydd' .Ymysg y siopau a dargedwyd roedd Woolworth, Barclays, Abbey, Burtons, Subway a Dorothy Perkins.etc.
26/05/2005 - 08:24
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Sir Caerfyrddin o “gymhellion gwleidyddol sinicaidd” wrth gyhoeddi amserlen i drafod y bosibiliad o gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir.
18/05/2005 - 09:29
Heddiw ym Mhorthmadog, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â chynigion dogfen bolisi Deddf Eiddo’r mudiad. Dros y misoedd diwethaf, bu Grŵp Polisi Cymdeithas yr Iaith yn adolygu cynnwys y ddogfen gynhwysfawr hon – a argraffwyd gyntaf ym 1992 a’i ddiwygio ym 1999 – gan roi sylw i ddatblygiadau diweddar ym maes tai a chynllunio ar draws Prydain.
16/05/2005 - 10:30
Mae Cymdeithas yr Iaith yn datgelu heddiw gynlluniau Cyngor Sir Gaerfyrddin i gyhoeddi ei rhestr du cyntaf o ysgolion pentre i’w cau yn ystod Mehefin. Disgwylid y cyhoeddiad ar ddechrau'r flwyddyn, ond y mae wedi cael ei ddal yn ôl tan yn awr.
15/05/2005 - 08:13
Yn wyneb gwrthodiad Jane Davidson unwaith yn rhagor i gwrdd ag ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol, cyhoeddwyd heddiw y bydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu’r cyfarfod ei hunan.
11/05/2005 - 09:45
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno wrth Jane Davidson ei bod wedi gwastraffu blwyddyn gyfan yn gohirio penderfyniad ar gais syml a allai arwain at sefydlu Coleg Aml-safle Cymraeg wedi chwarter canrif o ymgyrchu.
21/04/2005 - 20:56
Mae Cymdeithas yr Iaith yn diolch am fywyd Gwynfor Evans - am ei arweiniad a'i gefnogaeth bob amser i Gymdeithas yr Iaith a'r frwydr dros y Gymraeg. Rhoi diolch yw'r unig air a gweithred sy'n gweddu ar hyn o bryd. Gallwch dalu teyrnged i Gwynfor ar www.gwynfor.net