Archif Newyddion

05/07/2004 - 22:23
Dyddiad: Penwythnos 2il a 3ydd o OrffennafLleoliad: Tafarn y Cwps, AberystwythDigwyddiad: Rhagbrofion Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 2004
02/07/2004 - 17:43
Un o brif amcanion Grŵp Adloniant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ydy hybu talentau ifanc cerddoriaeth Cymraeg. Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth yn Eisteddfod 2002 a 2003, bydd y Gymdeithas unwaith eto yn cynnal cystadleuaeth ‘Brwydr y Bandiau’ yn Eisteddfod Casnewydd 2004.
30/06/2004 - 21:31
Dros y pedair mlynedd diwethaf, daeth yn boenus o amlwg fod arweinwyr Cyngor Ceredigion wedi methu yn llwyr a diogelu yr iaith gymraeg a chymunedau Cymraeg y sir.
24/06/2004 - 21:10
Ar ddydd Gwener 25 Mehefin bydd Cyfarfod Cyffredinol Cyntaf y Cyngor newydd. Yno i’w croesawu fydd aelodau Cymdeithas yr Iaith i gynnig agenda amgen i’r cynghorwyr newydd i’w drafod a’i fabwysiadu.
23/06/2004 - 09:52
Heddiw bu deuddeg o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio y tu allan i adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaernatfon. Cynhaliwyd piced am ddwyawr y tu allan i’r adeilad er mwyn tynnu sylw at y broblem dai yn y cymunedau.
13/06/2004 - 22:09
Heddiw, 13/6/04, mae Radio Carmarthenshire yn dechrau darlledu go iawn yn Sir Gâr, ac ar drothwy’r digwyddiad hwn fe gododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith faner ar fast trosglwyddo Carmel ger Cross Hands. Mae’r neges ar y faner yn syml – “ni’n gwrando”.
08/06/2004 - 22:29
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael ar ddeall fod Tîm Rheoli Swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymryd arnynt eu hunain - heb ofyn i gynghorwyr etholedig - i fabwysiadu cynllun dadleuol a allai olygu cau llawer o ysgolion pentrefol yn y sir.
08/06/2004 - 22:14
Urdd's principlesSIR - Glyn Davies's condemnation of the peace protest on the Urdd Eisteddfod field (The Western Mail June 3) shows that the AM has little understanding of the movement's long-standing commitment to peace and international co-operation.
05/06/2004 - 09:50
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu â phob un o'r 178 ymgeisydd sy'n sefyll yn yr etholiadau ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Iau nesaf yn gofyn iddynt daflu Cynllun Datblygu Unedol y Sir i'r neilltu a dechrau eto.
04/06/2004 - 01:00
Mewn protest ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Gwener 04/06/04), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn datgan na ddylai y cwango addysg ELWA ymyrryd gyda'n hysgolion uwchradd trwy eu hamddifadu o'r chweched dosbarth. Bydd y brotest yma yn cychwyn wrth uned Cymdeithas yr Iaith am 1 o'r gloch.