#Miliwn o resymau i fwynhau'r 'Steddfod‏

Gigs yn y COBRA, Meifod

 

Cynhelir gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith eleni yng Nghlwb Rygbi COBRA, Meifod.

  • 8 Gig rhwng 1-9 Awst 2015.
  • Maes Gwersylla rhataf y Steddfod.
  • Pwyswch ar y lluniau isod i archebu eich tocynnau.
  • Cofiwch ddilyn @gigscymdeithas ar Twitter a hoffi tudalen Gigs Cymdeithas ar Facebook er mwyn gweld mwy!

*PWYSIG - Mae dal modd prynu tocynnau arlein trwy bwyso ar y delweddau isod, ond ni fyddan nhw'n cael eu postio, byddan nhw ar gael i chi ar uned y Gymdeithas neu yn y gigs gyda'r hwyr. Dewch â'r ebost cadarnhad gyda chi fel prawf.








  • Sadwrn Awst 1af: Plethyn, Geraint Løvgreen, Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms, Sgilti (Set DJ)
  • Sul Awst 2il: Meic Stevens, Gareth Bonello, Efa Supertramp, Jamie Bevan Sgilti (Set DJ)
  • Llun Awst 3ydd: Clwb Senglau'r Selar yn cyflwyno: Candelas, Capten Smith, Y Galw, Ysgol Sul, Sŵnami (set DJ)
  • Mawrth Awst 4ydd: AnnTastig  (trefnwyr nosweithiau "Iolo!", "Siwper Cêt ac ambell Fêt" ac "Yn y Coch" yn ôl gyda cherddi a chaneuon)
  • Mercher Awst 5ed: Steve Eaves, Y Ffug, Blodau Gwylltion, Lobsgows, Degawd, Sgilti (Set DJ)
  • Iau Awst 6ed: Clustiau Cŵn, Radio Rhydd, Mr Phormula, Roughion
  • Gwener Awst 7fed: Maffia Mr Huws, Y Gwyryf, Band Pres Llareggub, Tymbal, Gareth Potter (Set DJ)
  • Sadwrn Awst 8fed: Bob Delyn, Kookamunga, Cledrau, Henebion, Welsh Whisperer, Pobol y Twll
  • Tocyn wythnos: Mynediad i bob gig. Bydd yn arbed £15 ac yn cynnwys Crys-T am ddim!

Gwersylla yn y COBRA, Meifod

Archebwch le i wersylla ar faes gwersylla rhataf y steddfod, trwy fynd i cymdeithas.cymru/gwersylla

Digwyddiadau ar y maes

Byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar ein huned ar y maes bob dydd yn yr Eisteddfod, a bydd cerddoriaeth ar yr uned bob dydd hefyd. 

 
Lansiad ymgyrch dros deddfwriaeth newydd er mwyn atal allfudiad o'r wlad a sicrhau cartref fforddiadwy i bawb
2pm, Dydd Llun, 3ydd Awst
Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (Unedau 811-812)
Siaradwyr: Mared Jones (Ble ti'n mynd i fyw), Tamsin Davies (Cymdeithas) a chynrychiolydd Shelter Cymru
 
 
2 y.p., Dydd Mawrth, 4ydd Awst.
Uned Cymdeithas yr Iaith (Unedau 811-812), gyda gorymdaith i Stondin Cyngor Sir Powys i ddilyn.
Siaradwyr: Dafydd Iwan, Arwyn Groe, Tamsin Davies ac eraill, gydag ymddangosiad arbennig gan Owain Glyndŵr.
 
 
Lansiad canlyniadau ein harolwg ynghylch darpariaeth Gymraeg archfarchnadoedd
2 y.p., Dydd Mercher, 5ed Awst
Uned Cymdeithas yr Iaith (Unedau 811-812)
Siaradwyr: Aled Mann, Jamie Bevan, Heulwen Davies (Siop Alys) ac eraill.
 
 
Cyfarfod cyhoeddus i drafod sut gall Llywodraeth nesaf Cymru anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg
2:30pm, Dydd Iau, 6ed Awst
Pabell y Cymdeithasau 2
Simon Thomas AC (Plaid Cymru), Suzy Davies AC (Ceidwadwyr), Aled Roberts AC (Democratiaid Rhyddfrydol), Jamie Bevan (Cymdeithas) a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones
 
 
Protest - Cael gwared â Chymraeg Ail Iaith
9.30am, Dydd Gwener 7fed Awst
Uned Llywodraeth Cymru
Gyda chwricwlwm newydd yn cael ei lunio i ysgolion Cymru, mae un cyfle yn awr gyda ni i gael gwared â dirmyg "Cymraeg Ail Iaith" a sicrhau yn ei le "Cymraeg" i bawb gyda phob disgybl yn codi trwy wahanol lefelau o hyfedredd yn yr iaith sy'n perthyn iddyn nhw i gyd.

 

Lleoliad ein digwyddiadau, gigs a'r maes gwersylla

Cliciwch yma i weld y map Gwgl.

Lleolir y maes gwersylla ynghanol pentref Meifod, ar gaeau Clwb Rygbi'r COBRA - Cod Post: SY22 6DA