Ateb. Week In Week Out (cyf. CAS-3846669-0703VY)
3/6/16
Annwyl Mr Bevan,
Diolch i chi am gysylltu â ni gyda’ch rhestr o gwynion ynglŷn â Week In Week Out. Mae'r ymateb yma’n ymdrin â'r materion nodwyd yn eich gohebiaeth 25ain o Fai. Bydd y cwynion eraill a godwyd gennych mewn negeseuon pellach at BBC Cymru yn cael sylw ar wahân.