Cymunedau Rhydd

Trefnu Protest ar y Cyd gyda Cymuned yn y Steddfod

eisteddfod.JPGAm y tro cyntaf mae Cymuned a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cynnal protest ar y cyd a hynny ar Faes Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau ym Meifod brynhawn dydd Gwener. Bwriad y brotest oedd tynnu sylw at yr argyfwng tai sy'n tanseilio cymunedau ar draws Cymru a phwysleisio rhai camau y gall Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd er mwyn ymdrin ’'r broblem.

Cyngor Sir Caerfyrddin - Dim Pandas yma

cyngor_sir_caerfyrddin.JPGMae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi mynd ’ llu o bandas at Neuadd y Sir Caerfyrddin am 9am heddiw o flaen cyfarfod Cyngor llawn a fydd yn pleidleisio ar fabwysiadu Cynllun Datblygu Unedol.

Gwersylla ar dir Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion

 crestceredigion.gif Ers 9 o'r gloch neithiwr, mae nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi sefydlu gwersyll ar gae sy'n perthyn i'r Cynghorydd Dai Lloyd Evans - Arweinydd Cyngor Ceredigion, Mae'r cae ar gyrrion Tregaron ac oddi mewn i ffiniau y Cynllun Datblygu Unedol dadleuol Ceredigion, sy'n argymell codi 6,500 o dai dros y blynyddoedd nesaf.