Y Glyndwr, Caeryrddin
Yn dilyn y parti mawr ar faes yr Esietddfod yn Llanelli byddwn ni'n cwrdd i drafod y camau nesaf, fydd yn arwain at gyfarfod 'Tynged yr Iaith yn Sir Gâr' ar Ionawr yr 17eg: ddwy flynedd wedi rali fawr "Dwi eisiau byw yn Gymraeg" a naw mis ers i'r cyngor sir dderbyn argymhellion Gweithgor y Gymraeg.
Byddwn ni hefyd yn ethol swyddogion yr ardal - cadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd - byddwn yn derbyn enwebiadau yn ystod y cyfarfod; ac yn llunio unrhyw gynigion i fynd i Gyfarfod Cyffredinol cenedlaethol y Gymdeithas.