Caerfyrddin Penfro

Cyfarfod Cell Penfro

21/05/2014 - 19:00

Cyfarfod Cell Penfro

7pm nos Fercher yr 21ain o Fai

tafarn y Dderwen, Abergwaun

Sut gallwn ni rannu taflen adborth i'r Cyngor Sir  abeth yw'r ffordd orau i'w cael at sylw'r Cyngor? Dere i drafod?

Hefyd - manylion diweddaraf ymgyrchoedd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith

Cyfarfod Pwyllgor Gigs Eisteddfod Sir Gâr

14/05/2014 - 19:30

Byddwn ni'n cadarnhau manylion diweddaraf y gigs ac yn trefnu hyrwyddo a marchnata Gigs Steddfod Sir Gâr croeso i bawb.

Mwy o fanylion neu i drefnu rhannu ceir - bethan@cymdeithas.org a dilynwch @gigscymdeithas

 

Cyfarfod Cell Penfro

07/05/2014 - 19:00

Byddwn ni'n rhannu syniadau am sut orau i gael gwasanethau Cymraeg a ddylai fod ar gael gan y Cyngor ac yn trafod ymgyrchoedd eraill lleol a chenedlaethol.

Tafarn yr Yeonman, Hwlffordd

Nos Fercher Mai yr 8fed am 7pm

Cysylltwch gyda Bethan am fwy o fanylion neu i drefnu rhannu ceir: 01559 384378 neu bethan@cymdeithas.org

 

Croesawu penderfyniad Cyngor Sir Gâr

Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin i dderbyn strategaeth iaith newydd yn eu cyfarfod heddiw. Mae'r strategaeth wedi ei seilio ar argymhellion adroddiad 'Gweithgor y Cynulliad', gweithgor a sefydlwyd yn dilyn cyhoeddi ffigurau'r Cyfrifiad a ddangosodd ddirywiad difrifol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir. Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr:

Cyfarfod Cell Penfro - Gohiriwyd

24/04/2014 - 19:00

Yn anffodus bydd rhaid gohirio'r cyfarfod yma - byddwn ni'n ail-drefnu ar gyfer yr wythnosau nesaf.

Mwy o fanylion - bethan@cymdeithas.org / 07981 343313

Bandiau ifanc yn lansio Gigs Eisteddfod Cymdeithas yr Iaith

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gig yn Llanelli ar ddydd Gwener 11eg o Ebrill, gyda pedwar band ifanc o Sir Gâr yn cymryd rhan, er mwyn lansio un o'r lleoliadau y byddan nhw'n defnyddio ar gyfer gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd y Gymdeithas yn cynnal gigs mewn tri lleoliad yn ystod wythnos yr Eisteddfod sef y Thomas Arms, Clwb Rygbi Ffwrnes a'r Kilkenny Cat, lle bydd nifer o fandiau ac artisiaid gorau Cymru yn rhan o ddigwyddiadau'r wythnos.

Lansio #GigsSteddfod gyda Bromas, Castro, Y Banditos a Tymbal

11/04/2014 - 19:30

Gig Lansio #GigsSteddfod Cymdeithas yr Iaith

Mynnu Gweithredu erbyn yr Eisteddfod

Wedi i Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin gymeradwyo adroddiad Gweithgor sydd wedi llunio argymhellion i fynd i'r afael â sefyllfa'r Gymraeg yn y sir, mae Cymdeithas yr iaith wedi pwysleisio mai symud i weithredu sydd ei angen nawr.

Meddai Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth:

Carmarthenshire Language Report - A significant step forward and an opportunity

Following the release of the report by Carmarthenshire Council's Working Group on the Welsh language today Cymdeithas yr Iaith has welcomed a number of the recommendations but has emphasised that the Council itself must now ensure these recommendations are accepted and implemented in order to make a difference to the people of Carmarthenshire.

Sioned Elin, Chair of Cymdeithas yr Iaith in Carmarthenshire said:

Adroddiad ar y Gymraeg yn Sir Gâr - Cam sylweddol a chyfle

Wedi i Weithgor Cyngor Sir Gâr ar y Gymraeg ryddhau ei adroddiad heddiw mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu nifer o'r argymhellion ond yn pwysleisio mai lle'r Cyngor nawr yw sicrhau fod yr argymhellion yma'n cael eu derbyn a'u gweithredu er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl Sir Gaerfyrddin.

Meddai Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith: