Caerfyrddin Penfro

Cyfarfod Rhanbarth Caerfyrddin - gohiriwyd!

24/03/2014 - 19:30

Bydd rhaid gohirio'r Cyfarfod Rhanbarth yn anffodus.

Bydd adroddiad Gweithgor y Gymraeg y Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cyhoeddi ei adroddiad ddydd Mawrth y 25ain, a bydd yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Gweithredol y Cyngor ddydd Llun yr 31ain o Fawrth. Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd fod yn y cyfarfod hwnnw.

Byddwn yn ail-drefnu ein cyfarfod rhanbarth ar gyfer yr wythnos nesaf - mwy o fanylion: bethan@cymdeithas.org / 01559 384378

Cyfarfod Cell Penfro

09/04/2014 - 19:30

Ar ôl rali yn Hwlffordd ddechrau Mawrth fe wnaethon ni gasglu rhai cwynion am y Cyngor Sir. Byddwn ni'n edrych ar y cwynion sydd wedi dod ac yn trafod sut i gael mwy o enghreifftiau; ac yn penderfynu sut i sicrhau fod y Cyngor yn newid ar sail y cwynion.

Mae ffurflen i adael sylwadau am y Cyngor Sir fan hyn: http://cymdeithas.org/ffurflen/cymreigio-cyngor-sir-benfro neu cysyllta am gopi papur.

Adroddiad ar ddyfodol y Gymraeg yn Sir Gâr i'w gyhoeddi

Mewn cinio-gyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith a dirprwyaeth o Weithgor Gorffen a Gorchwyl Cyngor Sir Gaerfyrddin i'r Gymraeg yn y sir cyhoeddwyd y bydd adroddiad y gweithgor yn mynd gerbron Bwrdd Gweithredol y Cyngor ar Ddydd Llun 31ain o Fawrth a bod cefnogaeth unfrydol gan aelodau o bob plaid ar y gweithgor i'r argymhellion.

Meddai Sioned Elin, cadeirydd Cymdeithas yr iaith yng Nghaerfyrddin "Gyda newyddion am ddyfodiad S4C hefyd, gall heddiw fod yn ddiwrnod mawr i Sir Gaerfyrddin"

Call for council to take language 'seriously'

150 came to Haverforwest to call on the County Council to start taking the Welsh language seriously in the first rally Cymdeithas yr Iaith Gymraeg has held in Pembrokeshire for some years.


Rali iaith i Gymreigio Sir Benfro

Daeth tua 150 o bobl i Hwlffordd ddoe (Sadwrn 9fed) i alw ar y Cyngor i gymryd y Gymraeg 'o ddifrif' yn y rali gyntaf i Gymdeithas yr Iaith ei gynnal yn Sir Benfro ers rhai blynyddoedd.

Mae aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas wedi bod yn galw ar y Cyngor Sir ers rhai misoedd i ddatgan mai Cymraeg yw iaith y Cyngor Sir ac wrthi yn llunio cyfres o alwadau penodol y gall y cyngor ddechrau gweithredu arnyn nhw yn syth er mwyn gwireddu hyn.

Lansio Gigs Cymdeithas yr Iaith yn 'Steddfod Sir Gâr

10/03/2014 - 19:30

Cyfarfod lansio Gigs Cymdeithas yr Iaith yn 'Steddfod Sir Gâr 2014 - Y gigs gorau reit ynghanol y dre'

Dewch i glywed am gynlluniau Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos Steddfod, ac am y gig lansio fydd 'mlaen cyn hir.

Os na allwch chi ddod ond eich bod chi'n awyddus i glywed mwy neu i drefnu rhannu ceir cysylltwch - bethan@cymdeithas.org / 01559 384378 - a dilynwch ni ar twitter: @gigscymdeithas

Cymreigio Cyngor Sir Benfro: Ein hiaith ni – eu hiaith nhw?

08/03/2014 - 12:00
Cymreigio Cyngor Sir Benfro
Ein hiaith ni – eu hiaith nhw?
 
Mae hysbyseb swydd diweddar a nifer o gwynion am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg Cyngor Sir Penfro wedi dangos eu hagwedd tuag at y Gymraeg.

Cyfarfod Cell Penfro

19/02/2014 - 19:30

Roedd hysbyseb swydd diweddar gan y Cyngor Sir yn dangos eu hagwedd tuag at y Gymraeg - dere i weld beth allwn ni wneud i newid hyn. (Mwy o wybodaeth - http://cymdeithas.org/newyddion/galw-am-newid-agwedd-cyngor-sir-benfro)

Call for a change of attitude

Members and supporters of Cymdeithas yr Iaith have met with Councillor Huw George today (3rd of February) to call on Pembrokeshire County Council to respect the Welsh language. The news comes after a social worker job was advertised in English only - an advert condemned as 'demeaning' to the Welsh language and to speakers by campaigners.

 

One of the campaigners Meurig Jones:

Galw am newid agwedd - Cyngor Sir Benfro

Heddiw (dydd Llun 3ydd o Chwefror) mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi cwrdd gyda'r Cyng. Huw George i gyflwyno llythyr at sylw prif swyddogion Cyngor Penfro yn galw arnynt i gydnabod y Gymraeg. Daw hyn wedi i hysbyseb swydd am weithiwr cymdeithasol i bobl ifanc gyda'r Cyngor ymddangos yn uniaith Saesneg a gyda sylwadau 'sarhaus' tuag at y Gymraeg.

Meddai Meurig Jones, un o'r ymgyrchwyr: