Archif Newyddion

04/04/2014 - 16:15
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r newyddion bod Neuadd Pantycelyn yn cael ei chadw ar agor. Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae Cymdeithas yr Iaith yn diolch i fyfyrwyr Pantycelyn am ennill buddugoliaeth a fydd yn rhoi hwb i bawb sy'n brwydro dros ddyfodol eu cymunedau Cymraeg. Dyfodol yr iaith yw dyfodol ein cymunedau - yn eu holl amrywiaeth." Mwy o wybodaeth:
04/04/2014 - 10:52
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gadael i gynghorau sir godi treth uwch ar ail dai. Mae’r polisi yn un o’r argymhellion ym Maniffesto Byw y mudiad iaith a gyhoeddwyd yn gynharach eleni mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.
03/04/2014 - 08:28
Dyw defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad heb gynyddu ers dechrau datganoli yn ôl ymchwil Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gafodd ei ryddhau heddiw (Dydd Iau, Ebrill 3ydd).
31/03/2014 - 16:48
Wedi i Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin gymeradwyo adroddiad Gweithgor sydd wedi llunio argymhellion i fynd i'r afael â sefyllfa'r Gymraeg yn y sir, mae Cymdeithas yr iaith wedi pwysleisio mai symud i weithredu sydd ei angen nawr. Meddai Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth:
31/03/2014 - 09:36
Daeth tri chant o brotestwyr ynghyd yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn er mwyn protestio yn erbyn cynlluniau i adeiladu wyth mil o dai yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Galwodd y brotest, a gafodd ei harwain gan bwyllgor lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, am foratoriwm ar y cynllun datblygu lleol nes fydd gwaith ymchwil wedi ei gwblhau i fesur anghenion tai a gwasanaethau ym mhob cymuned yn y sir. Mae cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn ymgynghori ar eu cynlluniau datblygu lleol ar hyn o bryd.
25/03/2014 - 18:07
Wedi i Weithgor Cyngor Sir Gâr ar y Gymraeg ryddhau ei adroddiad heddiw mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu nifer o'r argymhellion ond yn pwysleisio mai lle'r Cyngor nawr yw sicrhau fod yr argymhellion yma'n cael eu derbyn a'u gweithredu er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl Sir Gaerfyrddin. Meddai Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
25/03/2014 - 17:18
“Bydd yr ymgyrch weithredu uniongyrchol yn dwysáu” - dyna neges Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi iddo ddisgrifio datganiadau Carwyn Jones am gymunedau Cymraeg a’r Mentrau Iaith fel “ffars llwyr”.
14/03/2014 - 17:27
Mewn cinio-gyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith a dirprwyaeth o Weithgor Gorffen a Gorchwyl Cyngor Sir Gaerfyrddin i'r Gymraeg yn y sir cyhoeddwyd y bydd adroddiad y gweithgor yn mynd gerbron Bwrdd Gweithredol y Cyngor ar Ddydd Llun 31ain o Fawrth a bod cefnogaeth unfrydol gan aelodau o bob plaid ar y gweithgor i'r argymhellion. Meddai Sioned Elin, cadeirydd Cymdeithas yr iaith yng Nghaerfyrddin "Gyda newyddion am ddyfodiad S4C hefyd, gall heddiw fod yn ddiwrnod mawr i Sir Gaerfyrddin"
14/03/2014 - 16:24
Heddiw (14eg Mawrth 2014) mae aelodau o'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyflwyno copi o’u “Bil Cynllunio ac Eiddo er budd ein Cymunedau” i'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant yn ei swyddfa etholaeth yng Nghei Cona.
11/03/2014 - 08:51
‘Gwrth-droi’r lli yn erbyn y Gymraeg yn ein cymunedau’, dyna ddisgrifiad Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith o fwriad y Mesur Cynllunio mae’r mudiad yn ei lansio yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw. Bydd Mesur Eiddo a Chynllunio, a ddrafftiwyd gan y grŵp pwyso, yn amlinellu pecyn o newidiadau er mwyn diogelu cymunedau Cymraeg yn ogystal ag ehangu ei defnydd ym mhob rhan o Gymru.