Archif Newyddion

10/03/2014 - 10:12
Rydym yn annog pawb sy'n poeni am ddyfodol y Gymraeg a chymunedau Cymru i ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus gan Gyngor Sir Ddinbych am gynllun tai dadleuol Bodelwyddan. Fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Ddinbych, mae cwmni Barwood Land am godi 1,715 o dai, gan dreblu maint pentref Bodelwyddan yn erbyn ewyllys y 93% â bleidleisiodd yn ei erbyn mewn refferendwm yn y gymuned. Rydym wedi ysgrifennu neges ebost gallech ei anfon at Gyngor Sir Ddinbych yma:
09/03/2014 - 23:00
Llythyr Agored at y Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant - Bil Cynllunio Annwyl Carl Sargeant Cyfeiriwn at eich cyfarfod diweddar gyda swyddogion o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i drafod drafft eich Bil Cynllunio newydd, ac at eich sylwad nad oes unrhyw gynghorydd sir wedi cysylltu â chi i fynegi pryder nad oes modd gwrthwynebu cais cynllunio ar sail effaith ar yr iaith Gymraeg.
09/03/2014 - 08:54
Daeth tua 150 o bobl i Hwlffordd ddoe (Sadwrn 9fed) i alw ar y Cyngor i gymryd y Gymraeg 'o ddifrif' yn y rali gyntaf i Gymdeithas yr Iaith ei gynnal yn Sir Benfro ers rhai blynyddoedd. Mae aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas wedi bod yn galw ar y Cyngor Sir ers rhai misoedd i ddatgan mai Cymraeg yw iaith y Cyngor Sir ac wrthi yn llunio cyfres o alwadau penodol y gall y cyngor ddechrau gweithredu arnyn nhw yn syth er mwyn gwireddu hyn.
06/03/2014 - 20:49
"Llond bol” gyda diffyg gweithredu, medd ymgyrchwyr Fe wnaeth dwsin o ymgyrchwyr iaith gadwyno eu hunain i gatiau swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth y bore yma gan ddweud eu bod wedi ‘cael llond bol’ gyda diffyg ymateb Carwyn Jones i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Mae'r weithred yn rhan o gyfres bydd ymgyrchwyr iaith yn eu trefnu dros y gwanwyn, er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg trwy weithredu chwe phwynt polisi.
04/03/2014 - 07:00
Adroddiad sy’n ‘colli cyfle’ i ateb problemau’r Gymraeg ym maes darlledu, dyna yw ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ail adroddiad Comisiwn Silk.  
25/02/2014 - 14:05
Bydd Cyngor Torfaen yn cymryd nifer o gamau i wella ei ddarpariaeth Gymraeg gan gynnwys gwneud swyddi rheng flaen yn hanfodol Cymraeg, yn dilyn ymgyrchu gan aelodau Cymdeithas yr Iaith.
22/02/2014 - 10:00
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu nifer o’r argymhellion mewn adroddiad gan grŵp a sefydlwyd i edrych ar y cysylltiad rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg a gafodd ei gyhoeddi heddiw. Ymysg y prif argymhellion, dywed yr adroddiad: y dylai fod yn ofynnol i fusnesau sy'n cael grant gan Lywodraeth Cymru ddangos eu bod yn gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog
21/02/2014 - 21:00
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu nifer o’r argymhellion mewn adroddiad gan grŵp a sefydlwyd i edrych ar y cysylltiad rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg a gafodd ei gyhoeddi heddiw.
18/02/2014 - 22:00
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhoi croeso gofalus i’r newyddion heddiw (Chwefror 18) ei bod yn ymddangos y bydd y Gymraeg yn un o amcanion datblygu cynaliadwy statudol y Llywodraeth. Ers dros flwyddyn, mae’r mudiad iaith wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gynnwys y Gymraeg fel rhan o ddiffiniad datblygu cynaliadwy, gyda nifer fawr o’u cefnogwyr yn cysylltu â’r Llywodraeth.   
17/02/2014 - 13:01
Mae chwech aelod o Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gadael swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, chwe awr wedi iddynt gau’r fynedfa mewn protest dros y diffyg ymateb i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Wrth ddod â’r brotest i ben am hanner dydd heddiw, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: