Addysg

Rhannu a Rheoli yn Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Swyddogion Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin o fabwysiadu agwedd oer o 'rannu a rheoli' yn eu cenhadaeth i gau ysgolion pentrefol Cymraeg a sefydlu addysg ganoledig a biwrocrataidd.

Mynyddcerrig - Penderfynwyd ymlaen llaw

Ysgol MynyddcerrigBydd dyfodol yr ysgol gynradd Gymraeg ei chyfrwng ym Mynyddcerrig yn dod gerbron Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin am y tro olaf bore fory (10am Mawrth 9ed Ionawr).

Prif Weithredwr yn camarwain ynghylch dyfodol ysgol?

Mark JamesMae Cymdeithas yr Iaith a rhieni ysgol Mynyddcerrig yn mynnu esboniad gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James am y sylwadau a wnaeth ar ddiwedd cyfarfod o'r Bwrdd Gweithredol ar yr 20ed o Fedi.

Gollwng 2 dunnell o 'Fynydd Cerrig' wrth bencadlys Cyngor Sir Caerfyrddin

Protest Ysgol MynyddcerrigMae Cymdeithas yr Iaith wedi cadw ei haddewid na fyddai Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael cau Ysgol Mynyddcerrig heb wrthwynebiad. Mae disgwyl i'r Bwrdd Gweithredol gwrdd mewn sesiwn gyhoeddus am 10am i gadarnhau argymhellion y swyddogion addysg i gau Ysgol Mynyddcerrig.

Galw ar Bwyllgor Cyngor i gymryd 'Cam Hanesyddol'

Ysgol MynyddcerrigMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin i gymryd cam hanesyddol trwy ddefnyddio'u hawl cyfansoddiadol i alw i mewn penderfyniad gan y Bwrdd Gweithredol.

Ymgyrch dros Ysgol Bentre'n symud lan gêr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBydd 'Y Stig' yn gwneud ymddangosiad ar Faes yr Eisteddfod heddiw Ar ei feic modur yn barod i ruthro at Neuadd y Sir Caerfyrddin gyda llond blwch o negeseuon yn cefnogi ysgol bentre sydd wedi’i lleoli tua 12 milltir o’r maes. 'Y Stig' yw’r gyrrwr rasio di-enw sy’n profi ceir ar y rhaglen deledu 'Top Gear'.

Negeseuon o Gefnogaeth i Mynyddcerrig ym Mhrotest Neuadd y Sir

Cadwn Ein Hysgolion.JPGY bore ma daeth 75 o gynrychiolwyr o 12 o ysgolion ynghyd a Merched y Wawr ac Undeb Ffermwyr Cymru i Neuadd y Sir, Caerfyrddin i roi negeseuon o gefnogaeth i frwydr Ysgol Mynyddcerrig dros ei dyfodol. Daeth pob cynrychiolydd a charreg o'u hardal nhw i adeiladu mynydd bach o gerrig o flaen Neuadd y Sir fel cyfraniad pellach at y broses ymgynghori ar ddyfodol yr ysgol.

Cymdeithas yn galw am ad-dalu cost adroddiad

Protest Coleg FfederalMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i gwmni Arad Consulting gael ei orfodi i ad-dalu eu ffi am gynhyrchu adroddiad ar ddatblgyu addysg uwch Gymraeg.

Ysgol Mynyddcerrig yn ennill y rownd gyntaf

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Ysgol Mynyddcerrig wedi ennill y rownd gyntaf o'i brwydr yn erbyn Cyngor Sir Caerfyrddin sydd am gau'r ysgol. Yn wyneb brwydr fawr dros yr ysgol - a arweinir gan Gymdeithas yr Iaith - mae'r Cyngor Sir newydd gyhoeddi y bydd yn ildio i'r cais am estyn y 'cyfnod ymgynghori' am fis ychwanegol.

Protest dros ddyfodol Mynyddcerrig yn cynyddu

cyngor_sir_caerfyrddin.JPGMae cynrhychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, a 10 o ysgolion pentref ynghyd a chynghorydd Cynnwyl Gaeo wedi addo rhoi eu cefnogaeth i'r frwydr i achub ysgol Mynyddcerrig. Byddant yn datgan eu negeseuon o gefnogaeth mewn Cyfarfod Protest o flaen Neuadd y Sir am 9.30 fore Mercher, Gorffennaf 12ed cyn cyfarfod llawn o'r Cyngor.