Addysg

Croesawu parodrwydd Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd i weithio gydag ysgolion a chymunedau lleol

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad Dyfed Edwards, arweinydd newydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, fod yn rhaid "edrych eto ar y cynllun drafft" i ad-drefnu ysgolion cynradd y sir.

Cychwyn o'r newydd o ran ysgolion yw neges Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi cefnogi galwad Cynghrair Ysgolion Gwynedd ar i’r Cyngor newydd gydnabod nad oes modd bellach iddo fynd ymlaen i basio’i Gynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion yn y sir. Meddai llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:"Mae’r un sefyllfa’n wynebu pwy bynnag fydd yn arwain y Cyngor.

Galwad ar Gyngor Sir Gar i roi heibio cynllun ysgolion

Cadwn Ein Hysgolion.JPGYn wyneb y canlyniadau etholiadol ysgubol yn Sir Gaerfyrddin, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Cyngor Sir newydd i roi heibio ei gynllun dadleuol i gau hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.Dywed cadeirydd y Gymdeithas yn y sir, Sioned Elin:"Dyma'r etholiad sirol cyntaf ers cyhoeddi'r Cynllun Moderneiddio Addysg yn Sir Gar yn 2005 a'r cyfle cyntaf i etholwyr fynegi eu barn.Yn y maes y

Llwyddiant Addysgol Ysgolion Bach

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw Gweinidog Addysg Cymru at lwyddiant ysgol fach 26 o blant yng Ngheredigion. Mae ysgol Dihewyd wedi derbyn adroddiad disglair gan y corff arolygu Estyn.

Croesawu cyfle newydd i Ysgolion Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan y Cyng. Dyfed Edwards (cynghorydd gyda phortffolio addysg Cyngor Gwynedd) y bydd y cynllun i ad-drefnu a ffedereiddio degau o ysgolion yng Ngwynedd y cael ei ohirio am flwyddyn hyd nes bod canllawiau newydd y Cynulliad ar ffedereiddio a chlystyru ysgolion yn glir.

Myfyrwyr yn dyfarnu graddau i'r Prifysgolion

Coleg ffederal CymraegHeddiw, ar ddiwrnod canlyniadau semester un y myfyrwyr mi fydd y myfyrwyr eu hunain yn dyfarnu graddau i Brifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Trin rhieni a chymunedau gyda dirmyg

cyngor_sir_caerfyrddin.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r dull haerllug ac ansensitif y mae Cyngor Sir Gar wedi trin rhieni a chymunedau lleol lle y bygythiwyd cau eu hysgolion. Dywedodd y Gymdeithas fod polisi "Moderneiddio" addysg y sir yn llanast llwyr a galwasant ar bleidleiswyr i ddal y Cyngor yn atebol yn yr etholiadau lleol sydd ar y gorwel.

Colli Tryweryn - Colli Ysgolion - Colli Iaith

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Cychwynodd Taith Gerdded Cymdeithas yr Iaith dros Ysgolion Pentrefol Gwynedd heddiw gan gerdded o Ysgol y Parc (un o’r rhai cyntaf sy tan fygythiad) at y Capel Coffa ar lan Llyn Celyn. Bu cyfarfod byr am yn y Capel i gofio Tryweryn ac i ymdynghedu i frwydro i beidio a cholli chwaneg o gymunedau Cymraeg o ganlyniad i golli ysgolion.

Ffilm: Diwrnodau Olaf Ysgol Mynyddcerrig

Ffilm ddogfen gan Lleucu Meinir yn dangos effaith cau ysgol bentrefol ar y disgyblion, yr athrawon a'r gymuned.

Ffilm newydd yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas yr Iaith

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Am y tro cyntaf erioed dangosir ffilm yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas yr Iaith sy’n cychwyn am 10.30am Sadwrn nesaf (2/2) yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth. Dangosir y ffilm “Diwrnodau Olaf Ysgol Mynyddcerrig” yn union cyn bod y Cyfarfod yn trafod cynnig i roi cefnogaeth weithredol i’r don gyntaf o ysgolion pentrefol Cymraeg sydd tan fygythiad yng Ngwynedd.