Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Swyddogion Addysg Sir Gâr o ddefnyddio'r un hen driciau wrth geisio rhwystro trafodaeth ar draws y sir ynglyn a'i Strategaeth Moderneddio Addysg a allai arwan at gau hyd at 40 ysgol bentrefol Gymraeg yn y Sir.
Bu 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith a Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr yn rhwystro cerbyd swyddogion addysg Cyngor Sir Caerfyrddin rhag ymadael a'r maes parcio cymunedol ym Mynydd Cerrig am awr o hyd neithiwr (Iau 08/06/06), yn dilyn cyfarfodydd o ymgynghori am ddyfodol yr ysgol gyda rhieni a llywodraethwyr.
Am 1pm yfory (Dydd Sadwrn 3ydd o Fehefin) cynhelir seminar chwyldroadol yn Uned Llywodraeth y Cynulliad ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun. Bydd y seminar yn ystyried cynnig Cymdeithas yr Iaith y dylid sefydlu Coleg Aml-safle Cymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Sir Gâr o sgorio gôl ryfeddol yn ei rwyd ei hun wrth hyrwyddo wythnos "cerdded i'r ysgol" ar yr union adeg y mae'n ceisio cau degau o ysgolion pentref.
Mae 6 aelod o Gymdeithas yr Iaith wedi llwyddo i fynd ar dô Prifysgol Bangor i ymuno a'r 15 aelod sydd wedi bod ar dô Prifysgol Aberystwyth am yr awr ddiwethaf. Mae'r 21 aelod yma yn ogystal a 3 aelod pellach sydd yno'n cefnogi criw Bangor, yn cymeryd rhan mewn protest yn galw am Goleg Aml-safle Cymraeg.
Bydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin gynrychiolydd anarferol i wynebu pentrefwyr ac ymgyrchwyr mewn Protest dros Ysgol Mynyddcerrig y penwythnos hwn. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno "Injan Ffordd" - neu Roliwr - fel cynrychiolydd y Cyngor Sir i'r cyfarfod i symboleiddio awydd y cyngor i orfodi'i strategaeth amhoblogaidd o gau ysgolion ar bobl y sir gan sathru ar unrhyw wrthwynebiad.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiad sydyn Cyngor Sir Gaerfyrddin i ddechrau'r broses ymgynghori yn syth ynglyn a dyfodol ysgolion Mynyddcerrig a New Inn. Nid yw ysgol New Inn hyd yn oed ar restr y Cyngor o 40 ysgol dan fygythiad, a doedd dim bwriad i gychwyn y broses ym Mynyddcerrig am flwyddyn arall.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu fod Gweinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, yn cyfarfod â dirprwyaeth gan y Gymdeithas, Rhieni a Llywodraethwyr sy'n pryderi am eu hysgolion pentrefol yn Sir Gaerfyrddin i drafod methiant canllawiau y Cynulliad Cenedlaethol i amddiffyn yr ysgolion.
Wrth i Gyngor Caerdydd gyhoeddi eu strategaeth ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn y brifddinas heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi sylwi ar un elfen o'r cyhoeddiad sy'n sicr o achosi embaras i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Bydd digwyddiadau go ryfedd yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin heddiw. Am 10am bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Arwerthiant Cyhoeddus o asedau nifer o swyddogion ac aelodau cabinet y Cyngor Sir - a hynny heb eu caniatad.