Addysg

Meddiannu Ysgol Mynyddcerrig

Meddianu Ysgol MynyddcerrigMae arweinwyr Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi cymryd y cam eithriadol o feddiannu adeilad ysgol Mynyddcerrig a gaewyd ar ddiwedd y tymor diwethaf. Yn oriau man y bore heddiw torrodd yr aelodau i mewn i adeilad neuadd/ffreutur yr ysgol lle cynhaliwyd yr ymgynghori a newidiwyd y clo.

Protest tu allan i Neuadd Cyngor Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBu dros 100 o bobl yn protestio tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin rhwng 8.30am a 10am y bore yma (23ain Gorffennaf ) cyn cyfarfod pwysig o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin. Trefnwyd y brotest gan rieni a llywodraethwyr, a bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yno yn cefnogi.

Trafod Deddf Iaith ac Ysgolion Pentrefol yn y Cynulliad

Senedd - CynulliadBydd aelodau o Gymdeithas yr iaith Gymraeg yn cynnal cyfarfod gyda swyddogion yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw am 12.30 i drafod Deddf Iaith a dyfodol Ysgolion Pentrefol. Cafwyd cadarnhad y bydd y cyfarfodydd yn mynd rhagddynt er na bydd gweinidogion yn bresennol.

Apel at Weinidog Addysg newydd Cymru

Cadwn Ein Hysgolion.JPGYn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd bydd plant, rhieni a llywodraethwyr yn cyfrannu at ffeil i’w danfon at Weinidog Addysg newydd Llywodraeth y Cynulliad yn galw am gyfle newydd i ysgolion pentrefol.

Llys droseddol mewn sesiwn ar faes yr Urdd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAm y tro cyntaf erioed, cynhelir Llys Droseddol ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf. Trefnir y Llys Iawnderau Cymunedol gan Gymdeithas yr Iaith am 12.00 Llun 28ain Mai tu allan i uned Cyngor Sir Caerfyrddin ar y maes.

Cyngor Sir Gâr yn paratoi i ymosod ar 2 ysgol bentre Gymraeg arall

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBore heddiw (Llun 14/05/07) bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyhoeddi cynllun i ymosod ar ddwy ysgol bentrefol Gymraeg arall – sef Llanarthne a Llansawel.

Gwys ar gyfer Cynghorwyr a Swyddogion Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAm 10am bore heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith wys yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin i bedwar o brif gynghorwyr a swyddogion y Cyngor Sir.

Llafur wedi'i chwalu yn y Gymru Gymraeg

LlafurMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw heddiw ar Blaid Cymru ac ar y Rhyddfrdwyr Democrataidd i sicrhau na chaiff Llafur Newydd fynd yn ei blaen i anwybyddu'r Gymru Gymraeg yn dilyn ei chwalfa yn yr Etholiad.

Her funud olaf ynghylch Ysgolion Pentrefol

Cadwn Ein Hysgolion.JPGYn ystod y dyddiau olaf cyn yr Etholiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu a phob arweinydd plaid yn gofyn am ateb syml "IE" neu "NA" i gwestiwn allweddol i ddyfodol ein hysgolion pentrefol Cymraeg.

Twyll ymgynghori - Cyngor sinigaidd yn cau ysgol

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cysylltu gydag athrawon a Ysgol Gynradd bentrefol Mynyddcerrig heddiw i ddatgan y bydd yr ysgol yn cau am y tro olaf ar ddiwedd tymor yr Haf eleni.