Addysg

Cymdeithas yr Iaith yn croesawu y newid llwyr ym mholisi ysgolion Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad y Cynghorydd Liz Saville (deiliad portffolio Addysg Cyngor Gwynedd) fod yr hen gynllun ad-drefnu ysgolion wedi dod i ben ac nad oes bellach unrhyw restr o ysgolion i'w cau, nac ychwaith gynlluniau gorfodi newid ar ysgolion eraill.

Nid lle gweithgor o'r Cyngor yw argymell cau ysgolion unigol

baner-protestcaernarfon-190.jpg Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bawb sy'n rhydd i deithio i ddod i Gaernarfon am 1pm Iau 19eg Mehefin o flaen cyfarfod allweddol o Gyngor Sir Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnig i sefydlu gweithgor i lunio polisi ad-drefnu newydd. Yn ôl y Pwyllgor Craffu Addysg, rhan o swyddogaeth y gweithgor hwnnw fydd "llunio rhestr o ysgolion i'w cau".

Galw ar y Gweinidog Addysg i ymyrryd yn Sir Gaerfyrddin

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, i ymyrryd er mwyn sicrhau na all Cyngor Sir Caerfyrddin ruthro trwodd fwriad i gau nifer sylweddol o ysgolion pentrefol Cymraeg.Wedi 15 munud o hunan-longyfarch, penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dderbyn argymhelliad i adolygu dyfodol 11 o ysgolion a chychwyn trafodaethau mewn nifer o rai eraill – a hynny o fewn

Deiseb Coleg Ffederal Cymraeg

Coleg ffederal CymraegLlofnodwch y ddeiseb yma - deiseb.cymdeithas.org
Coleg Ffederal CymraegGalwn ar Lywodraeth y Cynulliad i gadw at addewid cytundeb ‘Cymru’n Un’ o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:1. Statws a chyfansoddiad annibynnol2.

Torri ar draws Cyfarfod Pwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGFe wnaeth dwsin o aelodau Cymdeithas yr Iaith dorri ar draws cyfarfod o Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd mewn protest yn erbyn penderfyniad i osod gorchwyl i weithgor newydd o lunio rhestrau o ysgolion i'w cau.

Sut anghofiodd “Mr Anghofus” son wrth etholwyr Sir Gar am fwriad i gau 17 ysgol?

Mr AnghofusMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r Aelod Cabinet dros addysg yn Sir Gaerfyrddin, Cyng. Ieuan Jones, yn 'Mr Anghofus' am iddo anghofio, yn gyfleus iawn, son wrth yr etholwyr yn yr Etholiad y mis diwethaf am y cynlluniau a ddadlennwyd heddiw i gael blwyddyn fawr o gau ysgolion pentrefol yn y sir.

Dywedwch NA wrth y swyddogion - Ple Cymdeithas yr Iaith at Bwyllgor Gwaith newydd Cyngor Ynys Môn

Cyngor Ynys MônMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau Pwyllgor Gwaith newydd Cyngor Ynys Mon i wrthsefyll pwysau gan y swyddogion o flaen cyfarfod allweddol fory (4/6) i drafod dyfodol ysgolion pentre.

Ymateb i Adroddiad Cyngor Gwynedd ynglyn â ad-drefnu addysg

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMewn ymateb i adroddiad gan swyddogion Gwynedd i'w roi ger bron y Pwyllgor Craffu Addysg Dydd Iau nesaf mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw arnynt i ddiddymu'r cynllun adrefnu ysgolion yn hytrach na'i ddiwygio.

Academyddion blaenllaw yn galw a'r Jane Hutt i sefydlu Coleg ffederal llawn ac nid bwrdd yn unig

Coleg ffederal CymraegCynhelir Cynhadledd i'r Wasg am 3pm Mercher 28/5 yn uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd. Byddwn yn datgan fod pryder gwirioneddol y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnu ar ei addewid i sefydlu Coleg Cymraeg, sy'n rhan sylfaenol o Gytundeb "Cymru'n Un".

Rhowch derfyn ar y gyflafan - Neges Cymdeithas yr Iaith at y Gweinidog Addysg

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAr derfyn gorymdaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Penrhyn am 3pm heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Weinidog Addysg y Cynulliad i “atal y gyflafan arfaethedig o ysgolion pentrefol Cymraeg.”