Addysg

Dros 100 yn mynychu Cyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy'

cyfarfodt-gen09.jpgDaeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn.

Galw am newid Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth y Cynulliad

strategaeth-addysgcc.jpgYn ei hymateb i Strategaeth Ddrafft Addysg Gymraeg Llywodraeth y Cynulliad ( cyfnod ymgynghori'n dod i ben ar Awst 5ed ) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am newid sylfaenol yn nod y strategaeth.

Holiaduron Addysg Cyngor Sir yn Ddi-ystyr

sionedelin.jpgCred Cymdeithas yr Iaith bod holiadur a anfonwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin at rieni yng Nghwm Gwendraeth yn gamarweiniol ac o'r herwydd bydd y canlyniadau'n ddi-ystyr.

Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg

ceredigion.jpgBydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedu cynghorwyr ar eu ffordd i mewn i gyfarfod allweddol o Gyngor Ceredigion am 9am fore Mawrth (30/6) sy'n ailystyried y penderfyniad i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd.Mewn neges at y cynghorwyr, dywed y Gymdeithas fod y broses o benderfynu cau'r ysgol bentrefol Gymraeg ym Mhonterwyd wedi bod mor frysiog ac mor wallus fel ei b

Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth

Heddiw ar ddiwrnod cyhoeddi argymhellion yr Athro Robin Williams i'r Gweinidog Addysg ar fater polisi y Llywodraeth o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu rhai o argymhellion cryf yr adroddiad ac yn awr yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu Coleg aml-safle cadarn ac iddo gyllideb sylweddol.Meddai Rhys Llwyd, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Goleg Ffederal Cymraeg:"Rydym ni'n eithriadol o falch fod adroddiad Robin Williams yn argymell y bod angen sefydliad newydd annibynnol er mwyn datblygu addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch.

Agor cofrestr y Coleg Ffederal Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Ar Ddydd Gwener, Mai 29ain am 12pm, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn agor cofrestr y Coleg Ffederal Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd i bwysleisio fod y Coleg Cymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru gan wahodd darpar fyfyrwyr i gofrestru â'r Coleg.Wrth i ni aros am adroddiad Robin Williams a fydd yn argymell model o'r Coleg Ffederal Cymraeg i'r Gweinidog Addysg yn fuan iawn, mae Cymdeithas yr Iaith yn edrych ymlaen at sefydlu'r Coleg ac yn gwahodd disgyblion ysgol ac oedolion sydd am ddilyn cyrsiau addysg barhaus i gofrestru ar gwrs o'u dewis.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr

Cyngor Rhyddfrydol/Annibynol Ceredigion i wasgu allan unrhyw wrthwynebiad i'w cynllun ysgolion

addysg-ceredigion.jpgAm 9am heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Ceredigion y cyntaf o lawer o Beiriannau Gwasgu (steamrollers) a fyddant i'w gweld trwy'r sir a rhannau eraill o Gymru'n ystod y misoedd nesaf.

Coleg Ffederal Cymraeg ar y ffordd...

Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe mewn cyfarfod agored o'r Bwrdd sy'n trafod modelau posib ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu'r cyfeiriad mae'r Bwrdd yn ei gymryd a'r egwyddorion sylfaenol maent yn eu harddel ar hyn o bryd.Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn cyd-weld â gweledigaeth y bwrdd am sefydliad annibynnol gydag arian wedi ei gorlannu.

Dilynwch esiampl yr Alban - Her i Lywodraeth y Cynulliad

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.

Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando

Cadwn Ein Hysgolion.JPGHeddiw (Chwefror 5ed 2009) daeth Gweithgor Ysgolion Gwynedd yn ôl ac argymhellion o flaen y Pwyllgor Craffu Plant a Phobol Ifanc, yn datgan y bydd y cyngor yn mynd rhagddi gyda chynllun o ymgynghori llawn.