Addysg

Galw ar Aelodau Cynulliad i holi Gweinidog yn daer am ddyfodol Ysgolion Pentref

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBydd dadl yn Siambr y Cynulliad Ddydd Mercher ar adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu ar Ad-drefnu Ysgolion yng Nghefn Gwlad Cymru (pdf).

Ymateb i Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ad-drefnu ysgolion gwledig

Ysgol BentrefolMae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ad-drefnu ysgolion gwledig. Mae'r Gymdeithas yn benodol yn croesawu y sylwadau y dylai Awdurdodau Lleol gymeryd y broses o ymgynghori gyda chymunedau lleol o ddifrif ac y dylai effaith unrhyw ad-drefnu ar yr iaith Gymraeg fod yn brif ffactor wrth gymeryd penderfyniad.

"Gwrthodwch Blacmel y Cyngor Sir" - Apel i Lywodraethwyr Ysgol

Carreg HirfaenMae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.

Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle

deiseb coleg ffedDdydd Iau (6 Tachwedd, 2008) mi fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gwneud cyflwyniad ger bron pwyllgor deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynwyd y ddeiseb, sydd a 977 o enwau arno, i Lywodraeth Cymru ddechrau'r haf oherwydd fod Cymdeithas yr Iaith yn gofidio fod y Llywodraeth yn llusgo traed ar fater sefydlu'r Coleg Ffederal Cymraeg gafodd ei addo yng nghytundeb Cymru'n Un.

Agorwch eich trafodaeth ar addysg 14-19 oed o'r cychwyn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Awdurdod Addysg Caerfyrddin i beidio a gwneud yr un camgymeriad ag a wnaeth gyda'i MEP wrth iddynt drafod Cynllun Peilot ar gyfer Addysg 14 – 19 oed yn ardal Dinefwr yn estyn o Landyfri a Dyffryn Aman hyd Cwm Gwendraeth. Lluniwyd papur cefndir gan y swyddogion mor bell yn ol ag Awst 2007, ond ni bu unrhyw drafodaeth gyhoeddus. Yn y ddogfen diweddaraf ar ddatblygu Model Addysgol ar gyfer Dinefwr y mae'r swyddogion yn rhoi rhestr o 'gwestiynnau allweddol' a'r cyntaf yw "Pryd a sut y byddwn yn cyfathrebu yr hyn yr ydym am ei wneud?"

Cymdeithas yn cyhuddo'r cyngor o dorri corneli

Cadwn Ein Hysgolion.JPGYn wyneb y pwysau brys i cau Ysgol Ysbyty Ystwyth mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cysylltu ag arweinydd Cyngor Ceredigion trwy lythyr, i ofyn a yw'n fwriad nawr gan y cyngor i dorri corneli yn ei hawydd i arbed arian trwy cael gwared ag ysgolion pentref. Cred y Gymdeithas fod y Cyngor wedi dwyn pwysau annheg yr wythnos hon ar rhieni'r ysgol.

Ymgyrch coleg Ffederal Cymraeg - Ymgyrch Pawb

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBydd Cymdeithas yr iaith yn gweithredu ar faes yr Eisteddfod er mwyn agor i'r bobl yr ymgyrch a'r ddadl am Goleg Ffederal Cymraeg. Mae'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi cyhoeddi sefydlu Gweithgor - i'w gadeirio gan Robin Williams - er mwyn astudio gwahanol fodelau ar gyfer Coleg Ffederal Cymraeg ac felly wireddu un o addewidion sylfaenol dogfen "Cymru'n Un" Llywodraeth y Cynulliad.

Mae pawb yn rhan-ddeiliaid mewn Coleg Ffederal Cymraeg

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu datganiad Jane Hutt heddiw fod y Llywodraeth yn dal i anelu at sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn hytrach na bodloni ar ddiwygiadau ar y drefn bresennol. Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas wedi rhybuddio fod angen symud lawer ynghynt ac na ddylid cyfyngu’r trafod i’r sefydliadau addysgol.

Her i Swyddogion Addysg Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio pwysau newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar Ysgol Carreg Hirfaen, ffederasiwn 3-safle. Trwy newid y fformiwla gyllido i ragfarnu'n erbyn ysgolion bach, a thrwy symud y lwfans ar gyfer cynnal ffederasiwn, mae'r Cyngor yn ceisio gorfodi llywodraethwyr i gau dwy o'r safleoedd ym mhentrefi bach Llanycrwys a Ffarmers.

Cyflwyno deiseb â 1,000 o enwau i Jane Hutt ar fater Coleg Ffederal Cymraeg

Coleg ffederal CymraegWrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad Dydd Iau (03/07/08) gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglyn â pholisi Llywodraeth "Cymru'n Un" o Goleg Ffederal Cymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb gyda 1,000 o enwau i'r Gweinidog heddiw yn amlinellu'r hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor graidd Coleg Ffederal Cymraeg.