Addysg

Prif Weinidog mewn protest iaith dros ganolfan newydd Bangor

pontio-fflop.jpgAchosodd protestwyr iaith oedi i lansiad swyddogol canolfan celfyddydau newydd gan y Prif Weinidog ym Mhrifysgol Bangor heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 21).Fe ddaeth tua 16 o brotestwyr ynghyd gyda phosteri yn dweud "Ble mae'r Gymraeg?", "Pontio, fflop i'r gymuned a'r Gymraeg", ac "A fo ben bid fflop" gan lwyddo i atal y seremoni lansio swyddogol rhag mynd yn ei flaen am tua 20 munud.Mae'r

Gall obsesiwn y Cyngor gydag ysgol 3-19 Llandysul beryglu buddsoddiad yng ngweddill y Sir

Mae Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu heddiw i fwrw ymlaen â'r argymhelliad amhoblogaidd y dylai pob ysgol gynradd yn ardal Llandysul gau er mwyn creu un ysgol enfawr.

Ymateb i ddatganiad Cyngor Sir Gâr yngl?n â ysgolion Llangain, Bancffosfelen and Llanedi

logocyngorsirgar.jpgDywed Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin a rhiant yn Ysgol Bancffosfelen:"Rydym yn barod i dderbyn gair Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir eu bod yn barod i roi cyfle i ysgolion Llan-gain, Bancffosfelen a Llanedi i barhau i wasanaethu eu cymunedau.

Digon yw Digon - Cyngor Sir Caerfyrddin

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am brotest o flaen cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu addysg Cyngor Sir Gar i ddangos fod pobl y sir wedi cael digon o agwedd negyddol y Cyngor tuag at ysgolion a chymunedau pentrefol Cymraeg.

Gobaith o'r Diwedd - Cyngor Sir Conwy

Ysgol-Llangwm-taith.jpgMewn datblygiad hanesyddol heddiw, bydd papur o flaen Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cwsmeriaid Cyngor Sir Conwy am 2pm brynhawn heddiw (Bodlondeb, Conwy) yn argymell fod y Cyngor yn newid ei Strategaeth Moderneiddio Ysgolion i gydnabod gwerth ysgolion pentrefol Cymraeg. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai pob opsiwn yn y dyfodol ystyried yn ddwys anghenion y gymuned leol.

Gadewch i'r Cyngor Llawn benderfynu ar ddyfodol ysgolion pentrefol

Cyn cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion heddiw i drafod newid y broses ar gyfer adolygu dyfodol ysgolion pentref, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i'r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor Llawn.Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud mai cysyniad negyddol yw dewis ysgolion unigol ar gyfer adolygu, ac yn ffafrio yn hytrach adolygu pob ysgol yn gadarnhaol ardal wrth ardal er mwyn gweld sut y gellir eu datblygu yn gadarnhaol.

Llongyfarch Cyngor am amddifyn Ysgolion Gwledig Cymraeg

conwy-cadwn-ysgolion.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch swyddogion Cyngor Conwy am eu parodrwydd i gymryd sylw o lais y bobl ac am eu penderfyniad i gryfhau ysgolion gwledig Cymraeg yn y sir.

Lluniau Gwyl Parc 2010

Protest cau Ysgol y Parc: y frwydr yn parhau, medd Cymdeithas

Ysgol y Parc Dydd Iau.jpgMynegodd ymgyrchwyr eu siom heddiw ar ôl i Gyngor Gwynedd bleidleisio dros barhau'r broses statudol ar gyfer cau Ysgol y Parc, ger y Bala.Daeth y penderfyniad wedi protest tu allan i swyddfeydd y Cyngor, gan wyth deg o brotestwyr gan gynnwys plant a rhieni'r ysgol, oedd yn gwrthwynebu cynlluniau'r cyngor.

Ple o'r copa at Gyngor Gwynedd - protest ysgolion

Cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith brotest ar gopa'r Wyddfa heddiw (Dydd Mercher, 14eg Gorffennaf) mewn ple funud olaf at Gynghorwyr Gwynedd o flaen bleidlais dyngedfennol ar ddyfodol Ysgol Parc, Y Bala .Daeth criw o blant Ysgol Ysbyty Ifan i ymuno ag aelodau'r Gymdeithas ar y copa i dystio i bwysigrwydd eu hysgol nhw ac i ddatgan cefnogaeth i'r Parc. Aeth y Daith wedyn lawr llethrau'r Wyddfa ac ymlaen i Ddyffryn Nantlle heno gan gynnal cyfarfod pellach tu allan i Ysgol Baladeulyn.