Cymunedau Cynaliadwy

Lansio ‘maniffesto byw’ i gryfhau'r Gymraeg

‘Ymateb cadarnhaol i argyfwng yr iaith’ - dyna sut mae ymgyrchwyr wedi disgrifio'r ‘maniffesto byw’ a lansiwyd mewn rali yng Nghaernarfon.

'Dwi eisiau byw yn Gymraeg', neges rali'r Cyfrif

DAETH 400 o bobl i rali Cymdeithas yr Iaith i godi llais am ganlyniadau'r Cyfrifiad heddiw.

Cododd y dorf arwyddion yn dweud 'dwi eisiau byw yn Gymraeg' yn lansio ymgyrch newydd y Gymdeithas.Yn ystod y rali, lansiodd y mudiad  ‘maniffesto byw’ fel ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad. Mae’r maniffesto yn cynnwys dros ugain o bolisïau gyda’r nod o wrth-droi dirywiad y Gymraeg a welwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad yn gynharach yr wythnos hon.

Rali'r Cyfrif Dydd Sadwrn - Neges gan y Cadeirydd Newydd

Annwyl Gyd-Ymgyrchwyr,

http://cymdeithas.org/sites/default/files/u14/fideo-robin.jpgAm wythnos i ddod yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith! Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos bod argyfwng yn ein cymunedau, a bod sefyllfa'r Gymraeg yn un argyfyngus.

Gallwn ni yng Nghymdeithas yr iaith fod yn ganolog i'r chwyldro bydd yn gwrthdroi'r dirywiad ac yn creu cymunedau Cymraeg cynaliadwy.

Gweithredu yn erbyn Cyngor Sir Ddinbych achos ‘tai diangen’

Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi peintio sloganau ar swyddfeydd Cyngor Sir Dinbych oherwydd cynlluniau i ganiatáu adeiladu miloedd o dai diangen yn y sir.

Diffyg asesiadau effaith iaith yn ‘jôc’

Mae llai nag un ymhob tair mil o geisiadau cynllunio yn cael eu hasesu am eu heffaith ar yr iaith Gymraeg yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bil Datblygu Cynaliadwy yn 'anwybyddu'r Gymraeg'

Gallai deddfwriaeth newydd yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, a gafodd ei chyhoeddi heddiw, danseilio strategaeth iaith y Llywodraeth, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae'r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Fil Datblygu Cynaliadwy a fydd yn gwneud datblygu cynaliadwy yn 'prif egwyddor drefniadol' ar gyfer penderfyniadau strategol cyrff cyhoeddus.

Y Llawlyfr Deddf Eiddo

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF:

2000 o dai ar Ynys Mon - pryder effaith iaith

Wrth ymateb i'r cais i adeiladau 2000 o dai ar Ynys Môn, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

Hwb i gymunedau Cymraeg - penodi cydlynydd cynghrair newydd

Mae grwp newydd sy’n lobïo dros gymunedau Cymraeg wedi derbyn hwb ariannol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, cyhoeddwyd heddiw.